Skip to Main Content

Gwahoddir busnesau twristiaeth ledled Sir Fynwy i chwarae rhan flaenllaw wrth lunio dyfodol economi ymwelwyr y sir drwy Bartneriaeth Cyrchfannau newydd fydd yn cael ei lansio ym mis Ionawr 2027.

Mae Cyngor Sir Fynwy am ddenu ceisiadau gan fusnesau a sefydliadau’r sector twristiaeth, i ymuno â’r bartneriaeth, a fydd yn helpu i hybu’r gwaith o gyflawni Cynllun Rheoli Cyrchfannau’r sir ar gyfer 2025-2030.

Bydd y bartneriaeth newydd yn dwyn ynghyd cynrychiolwyr o bob rhan o ddiwydiant twristiaeth Sir Fynwy, sef atyniadau, darparwyr llety, busnesau lletygarwch, trefnwyr gweithgareddau a digwyddiadau, cynhyrchwyr bwyd a diod a sefydliadau eraill sy’n cyfrannu at yr economi ymwelwyr.

Gan weithio ochr yn ochr â chynrychiolwyr Cyngor Sir Fynwy, cynghorau tref, y Parc Cenedlaethol, Tirweddau Cenedlaethol a sefydliadau twristiaeth cenedlaethol, bydd aelodau’n helpu i nodi cyfleoedd, mynd i’r afael â heriau a chefnogi twf cynaliadwy yn y sector twristiaeth ledled y sir.

Gan gyfarfod pedair gwaith y flwyddyn, bydd y bartneriaeth yn cynnig fforwm fel y gellir cydweithio, rhannu syniadau a datblygu mentrau ymarferol i wella profiad yr ymwelydd, cyfnerthu enw da Sir Fynwy fel cyrchfan, a chefnogi busnesau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae Sir Fynwy yn ardal wych i ymweld â hi. Mae ganddi dirweddau anhygoel, trefi sy’n ffynnu, bwyd a diod rhagorol, a chyfoeth o brofiadau. Wrth i nifer yr ymwelwyr barhau i gynyddu, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cydweithio i wneud y gorau o’r cyfleoedd sydd gan dwristiaeth i’w cynnig.

” Bydd y Bartneriaeth Cyrchfannau yn rhoi llais gwirioneddol i fusnesau, wrth fynd ati i lunio dyfodol y sector. Drwy ddwyn arbenigedd, syniadau ac uchelgais ynghyd o bob rhan o’r diwydiant, gallwn adeiladu ar ein cryfderau, gwella profiad yr ymwelydd a chefnogi economi dwristiaeth ffyniannus, gynaliadwy, sy’n fuddiol i gymunedau ledled Sir Fynwy.”

Er mwyn sicrhau bod y bartneriaeth yn adlewyrchu amrywiaeth economi ymwelwyr y sir, anogir ceisiadau gan fusnesau o bob maint, ac o bob cwr o Sir Fynwy.

Mae ceisiadau ar agor tan ddydd Sul 20 Rhagfyr 2026. Mae’r cyfarfod cyntaf wedi’i drefnu ar 20 Ionawr 2027. I gael gwybod mwy a mynegi’ch diddordeb, ewch i letstalkmonmouthshire.co.uk/destination-partnership