Mae yna wahoddiad i ddefnyddwyr ffyrdd a cherddwyr yn Sir Fynwy i ddweud eu dweud am Strategaeth Ddiogelwch ar y Ffyrdd ddrafft newydd sy’n anelu at wneud teithiau’n fwy diogel i bawb.
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus, Sgwrsio Am Ddiogelwch ar y Ffyrdd, am ei Strategaeth Ddiogelwch ar y Ffyrdd ddrafft ar gyfer 2026-2040 ac mae’n annog unrhyw un sy’n byw yn y sir, yn gweithio yma, yn astudio yma neu’n teithio yma, i gyfrannu.
Mae’r Strategaeth yn cyflwyno dull hirdymor, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer lleihau anafiadau ar y ffyrdd a gwella diogelwch ar gyfer holl ddefnyddwyr y ffyrdd. Mae’n canolbwyntio’n arbennig ar y grwpiau sydd â’r mwyaf o risg o gael anafiadau difrifol, gan gynnwys cerddwyr, beicwyr, beicwyr modur a phobl ifanc rhwng 16 a 25 oed. Mae’r Strategaeth ddrafft hefyd yn amlinellu blaenoriaethau ynghylch cyflymderau mwy diogel, ffyrdd a strydoedd mwy diogel, ymddygiad defnyddwyr ffyrdd, diogelwch cerbydau a gweithio mewn partneriaeth.
Er bod nifer y bobl a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar ffyrdd Sir Fynwy wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r Cyngor yn cydnabod y gall pob gwrthdrawiad gael effaith barhaus ar unigolion, teuluoedd, gwasanaethau ymateb brys a chymunedau yn gyffredinol. Mae’r strategaeth arfaethedig yn cynnwys uchelgais i leihau nifer y defnyddwyr ffyrdd agored i niwed sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol o leiaf 40 y cant erbyn 2040.
Mae’r arolwg Sgwrsio Am Ddiogelwch ar y Ffyrdd hefyd yn gyfle i bobl rannu eu profiadau o deithio o amgylch Sir Fynwy ac i gynnig sylwadau am y blaenoriaethau a’r camau gweithredu a gynigir.
Gall trigolion weld y Strategaeth ddrafft a llenwi’r holiadur ar-lein ar: www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/ddiogelwch-ar-y-ffyrdd
Meddai’r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby: “Mae diogelwch ar y ffyrdd yn effeithio ar bob un ohonom, waeth a ydym yn teithio mewn car, ar feic modur, ar feic, ar drafnidiaeth gyhoeddus neu ar droed. Tu ôl i bob ystadegyn mae unigolyn, teulu a chymuned, a dyna pam mae’r gwaith hwn mor bwysig.
“Rydyn ni eisiau clywed gan bobl o bob rhan o Sir Fynwy am eu profiadau a’r hyn fyddai’n eu helpu i deimlo’n fwy diogel wrth deithio o amgylch y sir. Trwy wrando ar farn leol a’i chyfuno â’r dystiolaeth sydd gennym yn barod, gallwn sicrhau bod ffocws ein hymdrechion ar y mannau a’r meysydd lle gallant wneud y gwahaniaeth mwyaf a helpu i greu teithiau mwy diogel i bawb.”
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan ddydd Sul, 3 Ionawr 2027. Cymerwch ychydig funudau i edrych dros y cynigion a rhannu eich barn.
