Skip to Main Content

Mae Comin y Felin ym Magwyr a Gwndy wedi ymuno’n swyddogol â’r Goedwig Genedlaethol i Gymru, gan gydnabod llwyddiant y gwaith adfer diweddar ac ymroddiad gwirfoddolwyr lleol sy’n helpu i ofalu am y goedwig gymunedol annwyl hon.

Daw’r gydnabyddiaeth ychydig cyn Wythnos Genedlaethol Coed (21-29 Tachwedd 2026) ac mae’n dathlu trawsnewidiad Comin y Felin yn goetir ffyniannus, hygyrch sydd o fudd i bobl ac i fywyd gwyllt.

Mae Coedwig Genedlaethol i Gymru yn rhwydwaith o goetiroedd hygyrch o ansawdd uchel sy’n cefnogi adferiad natur, cyfranogiad y gymuned, mynediad i’r cyhoedd a gwydnwch yr hinsawdd ledled Cymru.

Yn ystod 2025 a 2026, arweiniodd Cyngor Sir Fynwy brosiect adfer mawr yng Nghomin y Felin i wella iechyd ecolegol a hygyrchedd y coetir, a’i werth fel man gwyrdd annwyl iawn i’r gymuned leol. Roedd y fenter, a gefnogwyd  gan y Grant Buddsoddi mewn Coetir a weinyddwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru, yn cynnwys cael gwared ar goed yr oedd clefyd y coed ynn wedi effeithio arnynt, plannu mwy o amrywiaeth o rywogaethau o goed, gwella llwybrau, a gosod meinciau, byrddau dehongli a llwybr cerfluniau.

Mae’r prosiect wedi gwella coridor gwyrdd pwysig a chreu mwy o gyfleoedd i drigolion ac ymwelwyr fwynhau natur a mwynhau’r golygfeydd godidog ar draws Gwastadeddau Gwent ac Aber yr Hafren.

Meddai’r Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae coetiroedd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi bioamrywiaeth, mynd i’r afael â newid hinsawdd a gwella iechyd a llesiant pobl. Mae’r gwaith o adfer Comin y Felin wedi creu coetir iachach, gwydnach a fydd o fudd i fywyd gwyllt ac yn darparu lle deniadol a hygyrch i bobl fwynhau natur. Mae pobl leol wedi dweud eu bod wedi sylwi ar yr amrywiaeth ryfeddol o rywogaethau coed, planhigion a bywyd gwyllt ym Mill Common, o ystlumod a llyffantod i dylluanod gwta a draenogod.

“Mae ei gynnwys yn Coedwig Genedlaethol i Gymru yn gyflawniad gwych ac yn gydnabyddiaeth o’r gwaith caled a’r ymrwymiad gan swyddogion y Cyngor, partneriaid a gwirfoddolwyr Mill Common Champions.”

Rhan allweddol o lwyddiant y safle oedd ymroddiad grŵp Mill Common Champions, sef grŵp gwirfoddol o drigolion lleol sy’n helpu i ofalu am y coetir a’i wella, gan sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.

Anogir trigolion i ymweld â Chomin y Felin yn ystod Wythnos Genedlaethol Coed, er mwyn mwynhau lliwiau’r hydref, archwilio llwybrau’r coetir a darganfod ychwanegiad diweddaraf Sir Fynwy at y Goedwig Genedlaethol i Gymru.

Dysgwch mwy am Coedwig Genedleaethol Cymru: https://www.llyw.cymru/coedwig-genedlaethol