Mae ymweliadau â safleoedd celfyddydol, treftadaeth a diwylliannol Sir Fynwy bron wedi dyblu ers 2022 gyda bron i chwarter miliwn o ymweliadau wedi’u cofnodi yn y ffigurau ar gyfer 2026.
Mae’r safleoedd yn cynnwys Castell Cil-y-coed, Hen Orsaf Tyndyrn, Amgueddfeydd y Fenni a Chas-gwent a Borough Theatre. Cofnododd y safleoedd 244,915 o ymweliadau, i fyny o 123,085 yn 2022, cynnydd o ryw 99%, sy’n tynnu sylw at y cyfraniad diwylliannol i gynnig y sir i ymwelwyr a chymunedau lleol.
Yn erbyn y cyd-destun hwnnw, mae niferoedd cynulleidfaoedd Borough Theatre yn y Fenni wedi bod yn rhyw 20,000 o bobl y flwyddyn dros y tair blynedd diwethaf. O gerddoriaeth fyw a theatr i ffilmiau a sgyrsiau proffesiynol, mae’r lleoliad yn cyflwyno rhaglen amrywiol i galon y Fenni, yn agos at ei marchnad hanesyddol.
Mae’r theatr wedi cynnal y cynulleidfaoedd hynny a chynyddu ei hincwm yr un pryd, gan ddod yn llai dibynnol ar y cymhorthdal. Mae’r cynnydd cadarnhaol mewn gweithgarwch theatr wedi gweld cymhorthdal arfaethedig Cyngor Sir Fynwy yn gostwng o £280,000 yn 2023/24 i £116,000 yn 2026/27. Mae hyn wedi dod yn bosibl trwy’r tîm theatr ymroddedig, gwirfoddolwyr, grwpiau lleol ac artistiaid sy’n cefnogi’r theatr a’r cynulleidfaoedd sy’n mynychu bob wythnos.
Ar draws Sir Fynwy, mae lleoliadau a digwyddiadau diwylliannol yn cyfrannu at fwy na nifer yr ymwelwyr. Maen nhw’n denu gwariant ymwelwyr, yn cefnogi artistiaid, yn dod â phobl i ganol trefi ac yn helpu i sicrhau buddsoddiad allanol. Mae gwaith ffilmio hefyd yn creu cyfleoedd i fusnesau yn y gadwyn gyflenwi leol.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, y Cyng. Sara Burch: “Mae gennym gymaint o atyniadau diwylliannol gwych yma yn Sir Fynwy, ac mae’r twf yn nifer yr ymwelwyr dros y pedair blynedd diwethaf yn dyst i waith caled ac ymroddiad staff a gwirfoddolwyr ar draws ein safleoedd.
“O’n cestyll a’n hamgueddfeydd i’r Borough Theatre, mae’r lleoliadau hyn yn gwneud cyfraniad gwirioneddol i’n cymunedau ac i gynnig Sir Fynwy i ymwelwyr. Mae’n arbennig o galonogol gweld mwy o bobl yn mwynhau’r hyn sydd gennym ar garreg eu drws, tra’n cefnogi canol ein trefi, busnesau lleol a’r sector diwylliannol ehangach.
“Rydyn ni eisiau adeiladu ar y cynnydd hwn, parhau i gefnogi’r bobl sy’n gwneud yr atyniadau hyn yn gymaint o lwyddiant ac annog hyd yn oed mwy o drigolion ac ymwelwyr i ddarganfod y profiadau diwylliannol gwych sydd gan Sir Fynwy i’w gynnig.”