Skip to Main Content

Bydd rhaglen newydd sy’n cael ei harwain gan ysgolion i hyrwyddo addysg bwyd, yn lansio’n fuan yn Sir Fynwy, fel y gellir cyfuno gwersi coginio ymarferol ag adrodd storïau ac archwilio’r synhwyrau.

Ar ôl cwblhau’r prosiect Chwedlau Bwyd y llynedd, aethpwyd ati ochr yn ochr â’r Tîm Ysgolion Bro i greu pecyn cymorth er mwyn i ysgolion gyflwyno’r sesiynau eu hunain.

Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys cynlluniau gwersi, blychau pecynnau coginio a sesiwn ymarferol.

Cafodd Pecyn Cymorth Cwricwlwm Chwedlau Bwyd gwbl ddwyieithog, ar gyfer Ysgolion Cynradd, ei lansio’n swyddogol ddydd Iau 12 Tachwedd yng Nghanolfan Gymunedol Magwyr gyda Gwndy.

Mae’r pecyn cymorth wedi’i lunio i roi gwaddol i’r prosiect Chwedlau Bwyd gan iddo gael cymaint o groeso, ac am ei fod yn cefnogi nifer o heriau yn ein cymunedau.

Roedd Chwedlau Bwyd yn rhaglen addysg bwyd a ariannwyd yn llawn. Ei nod oedd cynyddu hyder yn y cynllun Prydau Ysgol Am Ddim a’r nifer oedd yn manteisio ar y cynllun, gan ymgysylltu ag ysgolion, disgyblion a’u teuluoedd drwy ddysgu creadigol yn seiliedig ar chwarae.

Dewiswyd yr ysgolion ar gyfer y prosiect a gyflwynwyd ar draws pedair ysgol gynradd yn Ne Sir Fynwy, ar sail cymhwystra’r disgyblion i gael Prydau Ysgol Am Ddim a data Anghenion Dysgu Ychwanegol. Cafodd y prosiect ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) a chyllid gan Bartneriaeth Bwyd Sir Fynwy drwy Gymorth Bwyd Uniongyrchol.

Gan weithio mewn partneriaeth agos ag ysgolion a theuluoedd lleol, nod y prosiect oedd mynd i’r afael â’r hyn oedd yn rhwystro disgyblion rhag manteisio ar brydau ysgol yn ogystal ag ysbrydoli dewisiadau bwyta’n iach, a meithrin y gallu i blant a’u teuluoedd gysylltu’n ddyfnach â’r system fwyd.

Dywedodd y Cynghorydd Laura Wright, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Sir Fynwy: “Ar ôl llwyddiant y rhaglen Chwedlau Bwyd, rwy’n falch iawn o weld y pecyn cymorth sy’n cael ei arwain gan ysgolion, yn cael ei lansio.

“Mae ennyn diddordeb plant mewn bwyd a bwyta’n iach o oedran cynnar yn hanfodol.

“Edrychaf ymlaen at weld sut y caiff y pecyn cymorth ei weithredu ledled y sir.”