Skip to Main Content

Mae yna gynnig i fusnesau twristiaeth ar draws Sir Fynwy gael hyfforddiant am ddim i’w helpu i wneud eu safleoedd yn fwy hygyrch ac yn fwy croesawgar i ymwelwyr anabl a niwrowahanol.

Yn ôl yr Adran Gwaith a Phensiynau, amcangyfrifir bod gan 25% o boblogaeth y DU, sef 16.8 miliwn o bobl, anabledd. Mae hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd sicrhau bod busnesau, llety a safleoedd i ymwelwyr mor hygyrch â phosibl.

Mae Ymwelwch â Sir Fynwy, sef tîm rheoli cyrchfannau Cyngor Sir Fynwy, yn cynnig sesiynau hyfforddiant am ddim i fusnesau twristiaeth yn y sir er mwyn gwella hygyrchedd i ymwelwyr ag anableddau. Nod y sesiynau yw eu helpu i ddeall rhwystrau i fynediad a all fodoli ar safleoedd neu mewn eiddo, eu hadnabod a’u dileu.

Caiff y ddwy sesiwn hyfforddi eu hariannu gan y Grant Gwella Hygyrchedd i Ymwelwyr, a gefnogir gan y Gronfa Twf Lleol, gan Lywodraeth y DU, ac a reolir yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.

Meddai’r Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae cynhwysiant a hygyrchedd yn bwysig dros ben ym mhob agwedd ar ein bywydau, gan gynnwys twristiaeth. Rydym eisiau cefnogi busnesau twristiaeth Sir Fynwy â gwybodaeth i’w galluogi i gynnig y croeso mwyaf cynnes a hygyrch i ymwelwyr o bob rhan o’r DU. Buaswn yn argymell y sesiynau hyn i unrhyw fusnesau ymwelwyr yn y sir, i helpu i sicrhau bod Sir Fynwy yn gyrchfan i bawb.”

Gall busnesau gofrestru ar gyfer y naill sesiwn neu’r llall, neu’r ddwy sesiwn:

Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2027 – Hyfforddiant Hygyrchedd i Ymwelwyr gyda Piws (sefydliad nid-er-elw sy’n gwneud mannau a safleoedd cyhoeddus yn fwy hygyrch a chynhwysol). Wyneb yn wyneb yng ngwesty’r Angel yn y Fenni, 9.45am tan 1pm. Bydd y sesiwn yn cynnig sylfaen ymarferol i fusnesau lletygarwch greu amgylcheddau cynhwysol trwy drafod cyfrifoldebau cyfreithiol ac egwyddorion hygyrchedd. Bydd Deaf Friendly Ltd yn dilyn gyda gweithdy ar Iaith Arwyddion Prydain sylfaenol.

Dydd Mercher, 24 Chwefror 2027 – Gweminar Cyflwyniad i Niwroamrywiaeth gyda National Autistic Society. Ymunwch â’r weminar ar-lein, o 10.30am tan 12pm, er mwyn deall anghenion ymwelwyr a staff niwrowahanol yn well, a chael cyngor ymarferol am sut y gallwch greu profiadau cynhwysol, croesawgar a all wella boddhad cwsmeriaid a helpu i gyrraedd cynulleidfa ehangach.

I gadw’ch lle am ddim ar gyfer y naill sesiwn neu’r llall, ewch i cy.visitmonmouthshire.com/rheoli-cyrchfan  a chliciwch ar ‘Hyfforddiant Hygyrchedd ar gyfer Ymwelwyr’.

Am ragor o wybodaeth, anfonwch neges trwy e-bost i tourism@monmouthshire.gov.uk