Skip to Main Content

Yn ddiweddar, cynrychiolodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyng. Mary Ann Brocklesby, y sir mewn gwasanaeth coffa i gofio cyfraniad ac aberth milwyr lleiafrifoedd ethnig a’r Gymanwlad mewn gwrthdaro trwy gydol hanes.

Cynhaliwyd y digwyddiad ddydd Sadwrn 7 Tachwedd yng Ngerddi Alexandra yng Nghaerdydd.

Roedd y gwasanaeth, a drefnwyd gan Race Council Cymru mewn partneriaeth â’r Lleng Brydeinig, Cymdeithas Frenhinol y Gymanwlad Cymru a’r Lluoedd Arfog yng Nghymru, yn cydnabod y rheiny a oedd yn byw yng Nghymru, neu a ddaeth i Gymru ac a wasanaethodd y Deyrnas Unedig yn ystod y Rhyfeloedd Byd a gwrthdaro eraill.

Yn ogystal â seremoni gosod torchau, cafwyd teyrngedau a pherfformiadau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn ystod y digwyddiad.

Trefnwyd y digwyddiad i atgyfnerthu’r neges bod pob stori yn bwysig, bod pob aberth yn haeddu cydnabyddiaeth a bod pob cyfraniad yn haeddu cael ei gofio.

Ddydd Sadwrn, ymunodd y Cyng. Angela Sandles ag Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Brocklesby hefyd mewn seremoni yn Synagog Unedig Caerdydd i goffáu’r rhai a gollodd eu bywydau yn y ddau ryfel byd.

Roedd darllen y Rhestr Anrhydedd yn foment arbennig o ingol.

Diolchodd y cynghorwyr i’r gynulleidfa am eu croeso cynnes a’r cyfle i dalu teyrnged, ochr yn ochr â’r gymuned.

Dywedodd y Cyng. Brocklesby: “Roedd yn fraint mynychu’r gwasanaethau pwysig hyn a thalu teyrnged i’r dynion a’r menywod a wasanaethodd gyda chymaint o ddewrder.

“Mae eu cyfraniad a’u haberth yn rhan bwysig o’n hanes gyda’n gilydd. Mae pob stori’n bwysig, ac mae pob aberth yn haeddu cael ei gydnabod.

“Rhaid i goffâd gynnwys pawb a aeth i wasanaethu, a sicrhau bod eu straeon a’u haberth yn parhau i gael eu cydnabod gan genedlaethau’r dyfodol.”