Mae pobl ar draws y Gororau – yn Sir Fynwy, Swydd Henffordd, Powys a Swydd Amwythig – yn cael eu gwahodd i helpu i lunio siâp system fwyd leol gryfach, wyrddach a gwydnach trwy brosiect mawr newydd a gefnogwyd gan fwy na £1.4 miliwn o gyllid gan y Loteri Genedlaethol.
Mae Systemau Bwyd y Gororau ar gyfer y Dyfodol wedi cael £1,458,193.85 gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd, sef ymrwymiad hirdymor gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sy’n cefnogi cymunedau ar draws y DU i weithredu ynghylch newid hinsawdd ac ennyn diddordeb mwy o bobl mewn gweithredu amgylcheddol cadarnhaol.
Arweinir y prosiect gan Bartneriaeth Fwyd y Gororau, sef menter ar y cyd rhwng Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy, Bwyd Powys Food, Herefordshire Food Alliance a Shropshire Good Food Partnership, gyda Chyngor Sir Fynwy yn gweithredu fel y corff atebol arweiniol.
Mae’r prosiect yn dod â phobl leol, ffermwyr, busnesau bwyd a mudiadau cymunedol at ei gilydd, a bydd yn cefnogi gweithgarwch ymarferol, dan arweiniad lleol, sy’n cryfhau gwytnwch bwyd, yn lleihau allyriadau carbon ac yn creu cysylltiadau cryfach rhwng cynhyrchwyr a defnyddwyr.
Dros y blynyddoedd nesaf, bydd cymunedau ar draws y Gororau yn cael cyfleoedd i ddatblygu prosiectau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau ac anghenion lleol. Gallai’r rhain gynnwys mentrau tyfu a choginio cymunedol, cynlluniau compostio a lleihau gwastraff bwyd, rhannu prydau bwyd, ymweliadau â ffermydd a gweithgareddau sy’n helpu mwy o bobl i gael mynediad at fwyd a gynhyrchir yn lleol a’i gefnogi.
Meddai’r Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae bwyd yn ein cysylltu ni i gyd. Bydd y prosiect cyffrous hwn yn rhoi pobl a ffermwyr lleol wrth galon y gwaith o lunio system fwyd leol gryfach, decach a mwy cynaliadwy. Trwy weithio gyda’n gilydd ar draws y Gororau, gallwn droi syniadau lleol yn weithredu ymarferol, rhannu’r hyn sy’n gweithio a meithrin gwytnwch parhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Bydd pobl leol wrth galon y prosiect hwn. Bydd yn cefnogi datblygiad clystyrau cymunedol sy’n dod â thrigolion, ffermwyr, busnesau bwyd a mudiadau lleol at ei gilydd i archwilio anghenion a chyfleoedd bwyd lleol, nodi blaenoriaethau a rennir a datblygu prosiectau ymarferol mewn ymateb.”
Wrth i’r prosiect ddatblygu, fe fydd cyfleoedd i bobl leol, ffermwyr, cynhyrchwyr, busnesau bwyd a sefydliadau o bob rhan o’r Gororau gymryd rhan, rhannu syniadau a helpu i ddylanwadu ar gamau gweithredu lleol.
Am ragor o wybodaeth am Bartneriaeth Bwyd Sir Fynwy a sut i gymryd rhan, ewch i foodmonmouthshire.co.uk/cy/
