
Mae Cyngor Sir Fynwy yn dathlu cyflawniadau rhyfeddol gwirfoddolwyr, ysgolion, busnesau a grwpiau cymunedol lleol sydd unwaith eto wedi cael eu cydnabod yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026, y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS).
O arddangosfeydd blodau hynod ddeniadol a lliwgar i fannau gwyrdd cymunedol sy’n ffynnu, mae pobl ymroddgar ledled y sir wedi cael eu cydnabod am yr angerdd, y gofal a’r oriau di-ri y maent yn eu buddsoddi i sicrhau bod trefi a phentrefi Sir Fynwy yn lleoedd croesawgar, deniadol, sy’n gyfoethog o ran yr amgylchedd, i fyw ac i ymweld â nhw.
Ymhlith y llwyddiannau nodedig oedd Jim Quinn o Growing Space Parc Mardy, a dderbyniodd Tystysgrif Pencampwr arobryn Cymru yn Ei Blodau, RHS, o blith saith yn unig i gael ei dyfarnu ledled Cymru. Enillodd Growing Space Parc Mardy Wobr Lefel 5 Eithriadol hefyd, sy’n cydnabod gwaith neilltuol y gwirfoddolwyr sydd wedi trawsnewid a chynnal y safle.
Llwyddodd Y Fenni yn ei Blodau unwaith eto i gynnal ei record drawiadol, gan gyflawni gwobr Aur ac ennill y categori Trefi am y drydedd flwyddyn yn olynol. Dathlodd y dref lwyddiant unigol hefyd, gyda Thomas Nethercott o Ysgol Gynradd Gatholig y Forwyn a Sant Mihangel yn derbyn Gwobr Person Ifanc Jim Goodwin; y person cyntaf o’r Fenni i dderbyn yr anrhydedd.
Cafodd yr ysgol ei chydnabod hefyd yng Nghategori Ysgolion yr RHS, gan gyflawni Lefel Dau, ac fe wnaeth Gwesty’r Angel hefyd gipio Gwobr Aur yn ei gategori.
Yn y cyfamser, ychwanegodd Brynbuga bennod drawiadol arall at ei stori Cymru yn ei Blodau, gan gyflawni gwobr Aur a chipio buddugoliaeth yn y categori Pentref Mawr. Dyma’r 40fed tro i Frynbuga gipio teitl Cymru yn Ei Blodau; carreg filltir ryfeddol sy’n adlewyrchu pedwar degawd o falchder ac ymrwymiad cymunedol.
Mae’r cyflawniadau eleni yn arbennig o arwyddocaol ar ôl yr hyn a ellir ond ei ddisgrifio fel tymor tyfu heriol. Trwy gydol yr haf poeth a sych, aeth gwirfoddolwyr ledled Sir Fynwy ati i neilltuo oriau di-ri i ddyfrio arddangosfeydd a gofalu am welyau blodau a mannau gwyrdd gwerthfawr, gan sicrhau bod cymunedau yn parhau i flodeuo er gwaethaf y fath amodau anodd.
Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Y tu ôl i bob gwobr mae stori am garedigrwydd, ysbryd cymunedol a phobl yn dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth. Mae’r buddugoliaethau hyn yn eiddo i’r gwirfoddolwyr, y plant ysgol, y busnesau a’r grwpiau cymunedol hynny, sydd â lle amlwg iawn yn eu calonnau i’r man lle maen nhw’n byw.
“Mae eu hymrwymiad nid yn unig yn gwneud ein trefi a’n pentrefi yn fwy prydferth, mae’n dod â phobl at ei gilydd, yn creu cyfeillgarwch ac yn cryfhau balchder cymunedol. Llongyfarchiadau a diolch o galon i bawb a gymerodd rhan.”