Skip to Main Content

Mae arweinwyr o feysydd llywodraeth leol, ffermio, seilwaith, y byd academaidd a’r byd busnes wedi lobïo dros ddyfodol cadarnhaol i gefn gwlad Cymru a’r gororau yn y Senedd.

Ymunodd sefydliadau gan gynnwys NFU Cymru, Dŵr Cymru Welsh Water ac SP Energy Networks â chynrychiolwyr o Bartneriaeth y Gororau Ymlaen, sy’n rhychwantu Powys, Sir Fynwy, Swydd Henffordd a Swydd Amwythig.

Mewn cyfarfod ddydd Mercher 30 Medi, tynnwyd sylw at y ffordd y gallai’r rhanbarth helpu i gryfhau sicrwydd bwyd, gwytnwch dŵr, diogelwch ynni a thwf economaidd.

Yn erbyn cefndir o lifogydd cynyddol, cyfnodau sych hir a risg gynyddol o danau gwyllt, pwysleisiodd siaradwyr y gallai taclo heriau’r hinsawdd a’r amgylchedd hefyd greu swyddi, denu buddsoddiad a chreu cyfleoedd i gymunedau gwledig.

Ar yr un pryd, mae Partneriaeth Fwyd y Gororau wedi bod yn gweithio i wella sicrwydd bwyd. Yn ddiweddar, rhoddwyd hwb i hyn gyda’r newyddion am £1.4m o arian gan y Loteri Genedlaethol, sy’n enghraifft o’r buddion sydd i’w cael wrth i sefydliadau’r Gororau weithio gyda’i gilydd.

Meddai Abi Reader, Llywydd NFU Cymru: “Mae sicrwydd bwyd yn fater cenedlaethol o gydnerthedd, ac mae gan ffermwyr ran hanfodol i’w chwarae wrth gwrdd â’r her honno. Roedd yn galonogol bod yn rhan o drafodaeth sy’n cydnabod y cysylltiadau rhwng bwyd, dŵr, gwytnwch hinsawdd a thwf economaidd. Bydd gweithio gyda’n gilydd ar draws sectorau yn hanfodol os ydyn ni eisiau adeiladu dyfodol mwy cydnerth.

“Yn rhy aml rydyn ni’n trafod cost gweithredu. Yr hyn sy’n cael ei drafod yn llai aml yw cost diffyg gweithredu a dyna beth sy’n cael sylw yn y fan hon.”

Meddai Alun Shurmer, Prif Swyddog Strategaeth Dŵr Cymru Welsh Water: “Mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth Clymblaid Gwydnwch Busnes Partneriaeth y Gororau Ymlaen yn adlewyrchu cyd-ddealltwriaeth fod cost diffyg gweithredu yn cynyddu, a bod cydweithio ar raddfa ranbarthol, drawsffiniol bellach yn hanfodol.

“Rydyn ni i gyd yn profi’r un problemau, ond yn dod atyn nhw o gyfeiriadau gwahanol gan obeithio cyflawni’r un canlyniadau. Dyma gyfle go iawn i gydweithio.”

Ychwanegodd Nia Lowe, Pennaeth Gweithredwr System Ddosbarthu gyda Scottish Power Energy Networks: “Rydyn ni i gyd yn wynebu heriau mawr ond os ydyn ni’n gydweithredol ac yn arloesol yna gallwn agor cyfleoedd buddsoddi gwell. Rydyn ni’n gweld y prosiect hwn fel galluogwr sy’n dod â mwy o sicrwydd, ac yn sgil sicrwydd daw buddsoddiad.

“Mae sgiliau yn hanfodol i gymunedau gwledig, gan helpu pobl i weld dyfodol yn lleol yn hytrach na gorfod symud i ffwrdd.”

Meddai’r Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys: “Ni ddylai’r Gororau gael eu diffinio gan eu heriau, ond yn hytrach gan eu cyfleoedd. Mae gennym y tir, y busnesau, y sgiliau, yr asedau naturiol a’r partneriaethau trawsffiniol sydd eu hangen arnom i helpu i roi sylw i rai o flaenoriaethau mwyaf Cymru.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Ar draws ein rhanbarth rydyn ni’n dangos yn barod beth all ddigwydd pan fydd partneriaid cyhoeddus, preifat ac academaidd yn gweithio tuag at gyd-weledigaeth. Dangosodd y digwyddiad heddiw fod y momentwm y tu ôl i’r weledigaeth honno yn cynyddu, ac rydyn ni eisiau cefnogaeth genedlaethol i’w helpu i lwyddo.”

Tynnodd y digwyddiad sylw at waith ymarferol sydd ar y gweill yn barod i gefnogi gwytnwch yn erbyn llifogydd, buddsoddiad amgylcheddol, arloesi yng nghefn gwlad a thwf cynaliadwy. Bydd partneriaid yn parhau â’r sgwrs yn San Steffan ar 19 Hydref, pan fyddant yn gofyn am ragor o fuddsoddiad mewn arloesi a thwf yng nghefn gwlad, ac yn cyflwyno cais am £2.5m gan Lywodraeth y DU.

Jake Berriman, Leader Powys County Council, Mary Ann Brocklesby, Leader Monmouthshire County Council, Alex Wagner, Deputy Leader Shropshire Council and Jonathan Lester, Leader Herefordshire Council.
Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys, Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Alex Wagner, Dirprwy Arweinydd, Cyngor Swydd Amwythig a Jonathan Lester, Arweinydd, Cyngor Swydd Henfordd.