Skip to Main Content

Mae swyddogion gorfodi amgylcheddol Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn gweithio’n ddyfal ledled y sir am 12 wythnos er mwyn helpu i fynd i’r afael â throseddau taflu sbwriel a thorri Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus y cyngor ar gyfer rheoli cŵn.

Yn ystod pythefnos cyntaf y fenter, canolbwyntiodd swyddogion ar addysg ac ymwybyddiaeth, gan gyhoeddi rhybuddion lle bo’n briodol i helpu trigolion ac ymwelwyr ddeall y rheolau a’u cyfrifoldebau.

Anogir trigolion i siarad â swyddogion os oes ganddynt gwestiynau am droseddau sbwriel neu Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus y cyngor ar reoli cŵn.

Mae’n hawdd adnabod swyddogion gorfodi. Maen nhw’n gwisgo gwisg sy’n cynnwys siaced ddu amddiffynnol gyda’r geiriau Enforcement Officer/Swyddog Gorfodi ar y cefn, ac maent bob amser yn cario cardiau adnabod swyddogol Cyngor Sir Fynwy sy’n dangos eu llun.

Hoffai’r cyngor hefyd roi sicrwydd i drigolion os bydd Hysbysiad Cosb Benodedig yn cael ei gyhoeddi, bydd yn cael ei ddarparu mewn print ar y pryd, ynghyd â gwybodaeth sy’n esbonio sut i dalu neu apelio.

Ni fydd byth gofyn i aelodau’r cyhoedd dalu yn y fan a’r lle.

Hyd yn hyn, cyhoeddwyd 31 Hysbysiad Cosb Benodedig. Cyflwynwyd pum apêl, a chadarnhawyd tair yn dilyn adolygiad.

Kingdom Local Authority Support, cwmni gorfodi arbenigol sy’n gyfrifol am y swyddogion gorfodi. Nhw hefyd sy’n rheoli’r gwaith o weinyddu taliadau ac apeliadau.

Nid yw’r tîm gorfodi yn gweithio yn ôl targedau. Eu ffocws yw helpu i gadw strydoedd, parciau a mannau cyhoeddus Sir Fynwy yn lân ac yn ddiogel fel y gall bawb eu mwynhau.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae’r swyddogion gorfodi amgylcheddol wedi bod yn gwneud gwaith gwych yn cadw ein strydoedd, parciau a mannau cyhoeddus yn lân ac yn ddiogel fel y gall bawb eu mwynhau.

“Rwy’n annog unrhyw un sydd â phryderon am sbwriel neu reoli cŵn pan fyddant allan o gwmpas y lle, i siarad â swyddog. Maen nhw yno i helpu.” Am ragor o wybodaeth, ewch i monmouthshire.gov.uk/public-spaces-protection-order-2024-dog-control/