Skip to Main Content

Mae yna wahoddiad i bobl sy’n byw ym Mrynbuga neu’n teithio’n rheolaidd trwy’r dref i rannu eu barn am gynigion i wella llwybrau o amgylch Ysgol Gynradd Brynbuga, trwy ymgynghoriad newydd ar Sgwrsio Am Sir Fynwy.

Yn rhan o’r ymgynghoriad, sy’n rhedeg tan ddydd Llun 28 Medi, mae yn gais am adborth am welliannau arfaethedig sydd wedi’u cynllunio i wneud teithiau i’r ysgol, o’r ysgol a heibio i’r ysgol yn fwy diogel, yn fwy hygyrch ac yn fwy cynaliadwy i ddisgyblion, teuluoedd a’r gymuned ehangach.

Mae’r cynigion yn cynnwys newidiadau i’r ddarpariaeth gerdded a beicio o amgylch Ysgol Gynradd Brynbuga a’r feithrinfa, gan gynnwys llwybrau o’r dwyrain ar hyd Ffordd Trefynwy ac o’r gorllewin ar hyd Rhodfa’r Castell, Stryd y Castell, a Four Ash Street.

Mae’r Cyngor yn awyddus i glywed gan rieni, disgyblion, trigolion, busnesau, ac unrhyw un sy’n defnyddio’r ardal yn rheolaidd. Bydd yr adborth yn dylanwadu ar unrhyw welliannau yn y dyfodol ac yn sicrhau bod y cynigion yn adlewyrchu gwybodaeth a phrofiad lleol.

Mae’r ymgynghoriad ar gael nawr ar Sgwrsio Am Sir Fynwy, llwyfan ymgysylltu ar-lein y Cyngor ar gyfer ymgynghoriadau, arolygon a chyfleoedd i ymgysylltu.

Am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan, ewch i www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/lwybrau-i-ysgol-brynbuga

Meddai’r Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Rydyn ni’n awyddus i glywed gan bawb sy’n defnyddio’r ardal hon. Efallai eich bod chi’n rhiant, yn ddisgybl, yn un o’r trigolion lleol, yn berchen ar busnes, neu’n ymwelydd rheolaidd. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, bydd eich barn yn ein helpu i ddeall yn well pa welliannau fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i siwrneiau o amgylch Ysgol Gynradd Brynbuga. Rwy’n annog pobl i edrych ar y cynigion, mynd i’r sesiwn alw-heibio, a rhannu eu hadborth.”

Gall trigolion hefyd gael rhagor o wybodaeth a siarad â thîm y prosiect mewn sesiwn alw-heibio yn Hyb Cymunedol a Llyfrgell Brynbuga ddydd Llun, 14 Medi, rhwng 10am ac 1pm.