Mae trigolion Sir Fynwy yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ym mis Medi drwy blatfform ymgysylltu Cyngor Sir Fynwy, Sgwrsio am Sir Fynwy.
Mae mwy na 1,000 o bobl eisoes wedi cofrestru, gan ddefnyddio’r platfform i rannu barn, cyfrannu syniadau a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ymgynghoriadau ledled y sir.
Mae’r ymgynghoriadau sy’n fyw ar hyn o bryd yn cynnwys:
Sgwrsio am Ddiogelwch ar y Ffyrdd yng Ngwndy: sydd ar agor tan 23 Medi ac yn casglu adborth am welliannau arfaethedig i ddiogelwch ar y ffyrdd.
Sgwrsio am Lwybrau o amgylch Ysgol Brynbuga: sydd ar agor tan 28 Medi ac am wybod eich barn am lwybrau cerdded, olwynio a beicio o amgylch Ysgol Gynradd Brynbuga.
Sgwrsio am Waith Haearn Clydach: sydd ar agor tan 30 Medi ac yn casglu gwybodaeth i wella profiad yr ymwelydd a hygyrchedd
Sgwrsio am y Gymuned: sydd ar agor tan 30 Medi ac yn holi trigolion am yr hyn sydd fwyaf pwysig iddyn nhw a’u cymunedau.
Bydd Arolwg Trigolion Sgwrsio am Sir Fynwy sy’n lansio ar 14 Medi yn gofyn i drigolion am fywyd yn Sir Fynwy, gwasanaethau’r cyngor ac unrhyw rhyngweithio maen nhw’n ei wneud gyda’r cyngor. Bydd yr arolwg sy’n cael ei gynnal ledled Cymru yn helpu i lunio polisïau, gwasanaethau a blaenoriaethau yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae Sgwrsio am Sir Fynwy yn ffordd hygyrch i drigolion rannu eu barn, dylanwadu ar benderfyniadau a helpu i lunio dyfodol y sir. Er ei bod yn gyflym ac yn hawdd cymryd rhan ar-lein, gwyddom nad yw pawb yn gallu gwneud hynny, neu mae’n well ganddynt beidio â’i wneud fel hyn. Felly, os byddwch chi’n galw heibio i un o’n Hybiau Cymunedol a’n Llyfrgelloedd – yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Gilwern, Magwyr, Trefynwy a Brynbuga, gallwch ddod o hyd i arolygon yn ogystal â phosteri a gwybodaeth.
“Mae’n wych bod mwy na 1,000 o bobl eisoes wedi cofrestru, ond rydyn ni eisiau clywed gan hyd yn oed mwy o drigolion. P’un a yw’n ddiogelwch ar y ffyrdd, Gwaith Haearn Clydach, blaenoriaethau cymunedol neu wasanaethau lleol, mae pob ymateb yn ein helpu i ddeall y pethau pwysicaf.”
Dysgwch fwy am ymgynghoriadau sy’n fyw neu ewch ati i gofrestru i gael yr hysbysiadau trwy gydol y flwyddyn am ymgynghoriadau a gweithgareddau ymgysylltu sydd ar ddod, fel sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb ar www.letstalkmonmouthshire.co.uk neu’r wefan Gymraeg www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk