Mae menyw o Wcráin a ffodd o’i mamwlad yn 97 oed wedi i Rwsia feddiannu’r wlad, wedi dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed yn Neuadd y Sir yn Sir Fynwy.
Dathlodd Lidiia Rebrova, sy’n byw yn y Fenni, y garreg filltir wythnos ddiwethaf, gyda’i theulu, ffrindiau a gwesteion arbennig o’i chwmpas.
Ganed Lidiia yn ninas Vovchansk yn Wcráin ym 1926, gan symud i Kharkiv yn ddiweddarach.
Mae ei bywyd wedi cael ei siapio gan rai o’r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes Wcráin. Pan oedd yn blentyn ifanc yn ystod yr Holodomor, roedd Lidiia a’i theulu yn byw gyda’i gilydd mewn un ystafell mewn barics anorffenedig. Roedd yr ystafell yn 10 metr sgwâr.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gweithiodd Lidiia mewn ffatri matsis yn Kharkiv. O dan feddiannaeth y Natsïaid, roedd hi a phobl ifanc eraill yn eu harddegau weithiau yn cael eu gorfodi i gloddio ffosydd ar gyfer milwyr yr Almaen.
Ar ôl y rhyfel, cyfarfu Lidiia â’i darpar ŵr, Viktor, a phriododd y cwpl ym 1950. Aethant ymlaen i gael dwy ferch a rhannu eu bywydau gyda’i gilydd nes i Viktor farw yn 64 oed.
Roedd Lidiia yn aros gyda’i merch hynaf yn Kharkiv pan oresgynnodd Rwsia Wcráin yn 2022. Dechreuwyd bomio’r ddinas bron ar unwaith; profiad a ddisgrifiodd Lidiia fel “brawychus”.





Yn 97 oed, gorfodwyd Lidiia i adael ei chartref. Teithiodd hi a’i merch i Weriniaeth Tsiec yn gyntaf, cyn parhau â’u taith i’r Deyrnas Unedig.
Ers y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Lidiia wedi ymgartrefu yn Sir Fynwy, a mae hi wedi dod yn ffigwr adnabyddus a phoblogaidd yn y Fenni.
Ymunodd ei dwy ferch, un o’i hwyrion a gwesteion, gan gynnwys EF Arglwydd Raglaw Gwent, y Brigadydd Robert Aitken CBE, â Lidiia i ddathlu ei phen-blwydd.
Ymunodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, a’r Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, â Lidiia a’i theulu hefyd i nodi’r achlysur arbennig.






Meddai’r Cynghorydd Angela Sandles: “Roedd yn fraint go iawn cael ymuno â Lidiia a’i theulu ar gyfer achlysur mor llawen ac arbennig.
“Mae hanes bywyd Lidiia yn wirioneddol ryfeddol. Mae hi wedi byw trwy newyn, rhyfel, meddiannaeth ac, yn 97 oed, y trawma o gael ei gorfodi i adael ei chartref a dechrau o’r newydd mewn gwlad arall. A thrwy bopeth, mae hi wedi dangos dewrder a gwytnwch neilltuol.
“Mae Lidiia yn un o gannoedd o Wcreiniaid sydd wedi cael croeso cynnes gan gymunedau ar draws Sir Fynwy wedi i Rwsia feddiannu eu mamwlad. Roedd yn hyfryd gweld cymaint o bobl yn dod at ei gilydd i ddathlu gyda hi.
“Dymunwn iechyd a llawenydd i Lidiia a llawer mwy o achlysuron hapus gyda’i theulu a’i ffrindiau.”