Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cytuno i newidiadau sydd â’r bwriad o wella sut mae tyllau yn y ffyrdd yn cael eu hatgyweirio a sut mae trigolion yn cael gwybod y diweddaraf am gyflwr ffyrdd ar draws y sir.
Cymeradwywyd y newidiadau gan y cyngor llawn, mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan drigolion a chynghorwyr am gyflwr heolydd lleol. Dros y 12 mis diwethaf, mae’r cyngor wedi adolygu’r ffordd mae dweud am dyllau, sut maen nhw’n cael eu harolygu, eu blaenoriaethu a’u hatgyweirio, yn ogystal â chynyddu’r gyllideb cynnal a chadw priffyrdd.
Fel rhan o’r newidiadau, bydd y cyngor yn buddsoddi mewn offer newydd atgyweirio tyllau yn y ffyrdd, gan gynnwys peiriant Bobcat Skid Steer. Bydd hyn yn helpu timau priffyrdd wneud mwy o atgyweiriadau parhaol a lleihau’r angen am yr angen i ddod yn ôl mwy o weithiau, er ymateb o hyd i faterion diogelwch brys. Bydd deunydd atgyweirio mwy gwydn hefyd yn cael ei ddefnyddio yn ystod tywydd oerach a gwlypach i helpu atgyweiriadau i bara’n hirach.
Bydd gwelliannau hefyd yn cael eu gwneud i borth gwasanaeth ar-lein y cyngor, Fy Sir Fynwy, gan ei gwneud yn haws dweud am faterion, ychwanegu lluniau, gweld y diweddaraf am gynnydd ac osgoi dyblygu adroddiadau.
Mae’r cyngor hefyd yn bwriadu creu dwy swydd arolygydd ffyrdd ychwanegol. Byddai’r swyddi yma’n helpu’r cyngor i asesu adroddiadau’n gyflymach, cynllunio atgyweiriadau’n fwy effeithiol a rhoi gwybodaeth gliriach i gymunedau am waith sydd ar ddod.
Dywedodd y Cyng. Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Rydym yn gwybod bod tyllau yn y ffyrdd yn bryder go iawn i bobl ar dras Sir Fynwy. Mae trigolion am wybod y bydd problem, pan fyddan nhw’n dweud amdano, yn cael ei archwilio, ei flaenoriaethu a’i atgyweirio yn y ffordd iawn.
“Mae’r newidiadau yma’n ymwneud â gwella sut yr ydym yn ymateb, gan wneud y defnydd gorau o’r offer a’r deunyddiau sydd ar gael i ni, a chadw trigolion yn fwy gwybodus am y gwaith sy’n cael ei wneud ar ein ffyrdd.”
Bydd y cyngor yn monitro’r newidiadau dros y ddwy flynedd nesaf i ddeall sut maen nhw’n helpu i wella’r gwasanaeth priffyrdd i drigolion a defnyddwyr y ffyrdd ar draws Sir Fynwy.
I wybod mwy am atgyweirio tyllau, neu’r gwaith sy’n cael ei wneud, ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/cy/priffyrdd/tyllau-yn-y-ffordd/