Skip to Main Content

Mae Cabinet Cyngor Sir Fynwy wedi cymeradwyo Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol newydd i’w chyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w chymeradwyo’n derfynol.

Mae’r Strategaeth yn nodi sut y bydd y sir yn ymateb i risgiau cynyddol o lifogydd ac effeithiau cynyddol newid hinsawdd.

Yn rhan o’r Strategaeth, mae yna fframwaith hirdymor ar gyfer rheoli risgiau o lifogydd yn lleol yn sgil dŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin ar draws Sir Fynwy, ac mae’n disodli strategaeth llifogydd a chynllun rheoli risg llifogydd blaenorol y Cyngor.

Mae hefyd yn cyflwyno Cynllun Gweithredu Llifogydd cynhwysfawr, sy’n dod ag amcanion strategol a chamau gweithredu ymarferol at ei gilydd mewn un ddogfen. Mae’r rhain yn cynnwys gweithio gydag Awdurdodau Rheoli Risg eraill, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n rheoli risgiau o lifogydd ar brif afonydd, gan gynnwys afonydd Mynwy, Gwy a Wysg.

Datblygwyd y Strategaeth yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus helaeth, ac mae’n canolbwyntio ar leihau risgiau o lifogydd, amddiffyn cymunedau a seilwaith, gwella dealltwriaeth am risg llifogydd, a chryfhau gwytnwch yn erbyn tywydd y dyfodol.

Mae’n mabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar ddalgylch, gan alluogi’r Cyngor a’i bartneriaid i nodi blaenoriaethau a thargedu buddsoddiad i’r mannau lle gall gael yr effaith fwyaf.

Mae’r Strategaeth yn tynnu sylw at yr heriau cynyddol sy’n codi yn sgil newid hinsawdd a’r tywydd garw yn ddiweddar, gan gynnwys stormydd digynsail sydd wedi effeithio ar gymunedau ar draws Sir Fynwy yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’n cyflwyno mesurau sy’n cefnogi draenio cynaliadwy, rheoli llifogydd mewn ffordd naturiol, gwella’r amgylchedd, parodrwydd cymunedau, a gweithio mewn partneriaeth.

Meddai’r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby: “Mae llifogydd yn parhau i effeithio ar gymunedau ar draws Sir Fynwy, ac yn wyneb newid hinsawdd mae’n rhaid i ni fod yn barod at dywydd garw amlach yn y dyfodol.

“Mae’r strategaeth hon yn cyflwyno gweledigaeth glir ar gyfer y ffordd y byddwn yn gweithio gyda thrigolion, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddeall risgiau llifogydd, eu rheoli a’u lleihau,  yn well, gan adeiladu cymunedau cryfach a gwytnach.”

Gwybodaeth bellach: democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=144&MId=6605