Skip to Main Content

Bydd pecyn o welliannau i wasanaethau bysiau sy’n gwasanaethu Sir Fynwy yn cael ei gyflwyno o fis Medi ymlaen diolch i gefnogaeth gan Gyngor Swydd Henffordd a Llywodraeth Cymru.

Bydd y newidiadau hyn yn dod â gwasanaethau newydd ar ddydd Sul, teithiau ychwanegol gyda’r hwyr, gwell cysylltiadau â rheilffyrdd a chapasiti ychwanegol ar adegau brig ar y llwybrau prysuraf. Bydd hyn yn rhoi mwy o ddewisiadau teithio i drigolion a gwell mynediad i gyrchfannau allweddol ledled y rhanbarth.

Ymhlith y gwelliannau mwyaf arwyddocaol mae cyflwyno gwasanaeth dydd Sul ar lwybr 23 rhwng Henffordd, y Fenni, Pont-y-pŵl a Chwmbrân. Bydd pedair taith i bob cyfeiriad bob dydd Sul, gan ddarparu’r gwasanaeth dydd Sul cyntaf ar y llwybr ers sawl degawd.

Bydd teithwyr sy’n teithio ar lwybr 23 hefyd yn elwa o wasanaethau newydd gyda’r nos o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Bydd y newidiadau hyn yn darparu’r cysylltiad bws cyntaf gyda’r nos rhwng y Fenni a Henffordd ers blynyddoedd lawer, tra’n cynyddu’r amlder gyda’r nos rhwng y Fenni a Chwmbrân i bob awr.

Bydd taith ychwanegol yn y bore hefyd yn cael ei chyflwyno rhwng y Fenni a Phont-y-pŵl ar ddyddiau’r wythnos.

Mae gwelliannau pellach yn cynnwys ymestyn holl wasanaethau llwybr 66 rhwng Trefynwy a Henffordd i Orsaf Reilffordd Henffordd, gan wneud teithiau ymlaen yn haws i deithwyr.

Bydd gwasanaeth dydd Sul hefyd yn dychwelyd i lwybr 68 rhwng y Fenni, Rhaglan a Threfynwy. Bydd y gwasanaeth wedi’i adfer, a weithredodd ddiwethaf yn 2020, yn darparu pedair taith i bob cyfeiriad bob dydd Sul.

Ar goridor prysur Casnewydd, Cil-y-coed a Chas-gwent, bydd capasiti ychwanegol yn cael ei gyflwyno ar lwybr X74 o 1 Medi ymlaen trwy daith ychwanegol yn oriau brig y bore yn ystod yr wythnos.

Bydd teithwyr Cas-gwent hefyd yn elwa o daith fore ychwanegol ar Lwybr C1 rhwng Thornwell, Bulwark a chanol y dref.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby: “Mae’r gwelliannau hyn yn bwysig i gymunedau ledled Sir Fynwy.

“Mae trafnidiaeth gyhoeddus da yn hanfodol ar gyfer cysylltu pobl â swyddi, addysg, gofal iechyd, siopa a chyfleoedd hamdden, a bydd y newidiadau hyn yn rhoi mwy o ddewis i drigolion ynghylch sut a phryd maen nhw’n teithio.

“Mae trafnidiaeth gyhoeddus well ar y penwythnos yn sicrhau bod mwy o bobl yn gallu mwynhau’r hyn sydd gan Sir Fynwy i’w gynnig heb orfod dibynnu ar gar.”

Bydd nifer o fân ddiwygiadau eraill i amserlenni hefyd yn dod i rym o fis Medi ymlaen, felly dylai teithwyr wirio amseroedd siwrneiau cyn teithio. I gynllunio’ch siwrnai, ewch i https://www.traveline.cymru/