Skip to Main Content

P’un a ydych chi’n cerdded i’r ysgol, yn defnyddio sgwter symudedd i fynd i’r dref, yn seiclo i’r gwaith, neu’n syml yn mwynhau llwybrau lleol yn eich cymuned, rydym eisiau clywed am eich profiadau.

Mae amser o hyd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol (MRhTLl), a fydd yn helpu i lunio llwybrau cerdded, olwyno a seiclo yn y dyfodol ar draws Sir Fynwy.

Gall trigolion rannu eu barn tan ddydd Sul 30 Awst 2026.

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn a yw’r llwybrau presennol ac arfaethedig ar gyfer y dyfodol ar y MRhTLl yn gweithio i chi, a lle gallai fod cysylltiadau neu rwystrau coll sy’n gwneud teithiau bob dydd yn anoddach. Bydd eich adborth yn helpu i lywio cynlluniau a buddsoddiad yn y dyfodol mewn llwybrau ar draws cymunedau, gan gynnwys y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent, Gilwern, Magwyr gyda Gwndy, Trefynwy a Brynbuga.

Fel rhan o’r ymgynghoriad, gall trigolion gwrdd â swyddogion y cyngor mewn nifer o sesiynau galw heibio i ddysgu mwy, gofyn cwestiynau a rhannu eu syniadau.

Dewch i sgwrsio yn:

· Llyfrgell Trefynwy, Dydd Gwener, 21 Awst, 12pm tan 4pm

· Llyfrgell Cil-y-coed, Dydd Llun, 24 Awst, 9.30am tan 12.30pm

· Llyfrgell Cas-gwent, Dydd Llun, 24 Awst, 1.30pm tan 4.30pm

Gwell gyda chi ymuno ar-lein? Dewch draw i un o’n sesiynau galw heibio rhithwir i ofyn cwestiynau a rhannu eich adborth ddydd Llun 24 Awst, rhwng 11am a 12pm neu 7pm tan 8pm. Gallwch gofrestru ar gyfer y sesiynau ar-lein drwy’r dudalen Sgwrsio Am.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, sy’n gyfrifol am Deithio Llesol a Chynhwysol, y Cyng. Sara Burch: “Y ffordd orau o ddeall sut mae pobl yn symud o gwmpas ein cymunedau yw clywed yn uniongyrchol gan y bobl sy’n eu defnyddio bob dydd.

“P’un a ydych chi’n cerdded, yn olwyno neu’n seiclo’n rheolaidd, o bryd i’w gilydd, neu os hoffech chi wneud hynny yn fwy aml, mae eich barn chi’n bwysig. Rydyn ni am ddeall beth sy’n eich helpu i wneud teithiau lleol a beth sy’n rhwystro.

“Dyma’ch cyfle i ddweud wrthym am y llwybrau rydych chi’n eu defnyddio, y gwelliannau yr hoffech eu gweld, a’r newidiadau a allai wneud teithio o amgylch Sir Fynwy yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i bawb.”

Gall trigolion gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, archwilio’r map rhyngweithiol a chyflwyno adborth ar-lein trwy wefan Sgwrsio am Sir Fynwy: www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/rhwydwaith-teithio-llesol