Skip to Main Content

Fe fu Cil-y-coed yn dathlu artistiaid lleol dros y penwythnos, gan gynnig cyfle i’r gymuned ddod at ei gilydd a bod yn greadigol.

Mewn ymgyrch ar y cyd rhwng y Cyngor a’r gymuned, dathlodd Gŵyl Gelfyddydau Cil-y-coed ei hail flwyddyn; ar draws tri lleoliad yn 2026, gan ddathlu thema Lliw’r Haf.

Cynhaliodd Together Works a Llyfrgell a Hyb Cil-y-coed weithgareddau galw heibio am ddim ar y diwrnod, gyda Together Works yn sbarduno’r gweithgarwch yn ystod yr wythnos cyn y digwyddiad.

Cynigiodd Clwb Celf Irene gyfle i greu masgiau anifeiliaid y coetir ar gyfer y Ffair Haf.

Aeth Llyfrgell a Hyb Cil-y-coed i hwyl yr ŵyl hefyd, gan ddathlu llenyddiaeth gyda Sialens Ddarllen yr Haf, a chynnal gweithgareddau crefft ac arddangosfeydd gan artistiaid lleol.

Yng Nghastell Cil-y-coed cafwyd amrywiaeth o arddangosfeydd gan grwpiau celf lleol yn ogystal â’r dylunydd gwisgoedd arbenigol, Emma Williams, a fu’n arddangos peth o’i gwaith.

Rhannodd Gŵyl Gelfyddydau Cil-y-coed dir Castell Cil-y-coed gyda Ffair Haf Cil-y-coed, a gynhaliwyd hefyd y tu allan i Gastell Cil-y-coed ddydd Sadwrn 1 Awst.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth, y Cynghorydd Sara Burch: “Roedd Gŵyl Gelfyddydau Cil-y-coed yn achlysur mor hyfryd a lliwgar.

“Pa ffordd well o dreulio penwythnos heulog na bod yn greadigol mewn lleoliad hardd fel Castell Cil-y-coed. “Gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o bobl greadigol o bob cwr o Gil-y-coed yn cymryd rhan ac yn helpu i sicrhau bod digwyddiad y flwyddyn nesaf hyd yn oed yn well.”