Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyflawni statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, y lefel uchaf o gydnabyddiaeth sydd ar gael drwy gynllun Hyderus o ran Anabledd Llywodraeth y DU.

Mae’r cyflawniad yn adlewyrchu ymrwymiad y cyngor i greu gweithle cynhwysol lle mae pobl anabl a’r rheini â chyflyrau iechyd hirdymor yn cael eu cefnogi i ffynnu. Mae’n dilyn mwy na dwy flynedd fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac mae’n cydnabod y cynnydd ar draws y sefydliad i chwalu rhwystrau a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal.

Mae’r cynllun Hyderus o ran Anabledd, sy’n cael ei arwain gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn helpu cyflogwyr i ddenu, recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl wrth fynd ati i greu gweithleoedd mwy cynhwysol.

Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, mae’r cyngor wedi ymrwymo i:

  • Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • Cefnogi pobl anabl i gyrraedd eu potensial llawn
  • Denu a datblygu doniau o blith gweithlu amrywiol
  • Gwella dealltwriaeth am anabledd yn y gweithle
  • Chwalu rhwystrau i gyflogaeth a dilyniant

Dywedodd y Cyng. Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cyflawni statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Mae hyn yn adlewyrchu holl waith caled ac ymrwymiad cydweithwyr ar draws y cyngor i sicrhau bod pobl anabl yn cael cyfleoedd cyfartal i lwyddo a chyfrannu.”

“Er ein bod yn falch dros ben o’r cyflawniad hwn, rydym yn cydnabod bod mwy i’w wneud bob amser. Mae’r achrediad hwn yn dangos ein hymrwymiad i welliant parhaus a chre gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u galluogi i gyrraedd eu potensial llawn.”

Mae Cyngor Sir Fynwy yn parhau i weithio tuag at feithrin gweithlu amrywiol a chynhwysol sy’n adlewyrchu cymunedau yn Sir Fynwy ac yn eu gwasanaethu.