Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch iawn o gyhoeddi bod nifer o’i barciau, atyniadau a mannau gwyrdd cymunedol yn chwifio’r Faner Werdd arobryn unwaith eto. Dyma’r tro cyntaf i Erddi Linda Vista y Fenni ennill y clod; a dyfarnwyd gwobr dreftadaeth arbennig i Gastell Cil-y-coed.
Mae Gwobr y Faner Werdd sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol yn dathlu’r parciau a’r mannau gwyrdd hynny sy’n cael eu rheoli’n dda ac yn cynnig profiadau uchel eu hansawdd i ymwelwyr yn ogystal â rhagoriaeth o ran rheoli amgylcheddol, cynnwys y gymuned a chynnal a chadw.
Mae’r cyflawniad eleni yn sylweddol i Erddi Linda Vista, sydd wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd am y tro cyntaf.
Mae Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed hefyd wedi sicrhau statws Gwobr y Faner Werdd yn ogystal â chael ei gydnabod ag Achrediad Safle Treftadaeth Werdd.

Mae’r Achrediad Safle Treftadaeth Werdd yn cydnabod mannau gwyrdd hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol sy’n dangos rhagoriaeth o ran amddiffyn a diogelu treftadaeth, a dod â hi yn fyw i ymwelwyr.
Ledled Sir Fynwy, dyfarnwyd Gwobrau’r Faner Werdd hefyd i:
· Parc Gwledig Rogiet – sydd wedi derbyn gwobr er 2024
· Hen Orsaf Tyndyrn – sydd wedi derbyn gwobr er 2009
· Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed, a gafodd ei anrhydeddu er 2013
· Dolydd y Castell yn Y Fenni, er 2014
Cafodd 12 Safle Cymunedol arall eu cydnabod gyda Gwobr y Faner Werdd, yn cynnwys:
· Parc Bailey
· Gardd Busy Bees
· Dolydd Caerwent
· Gardd Gymunedol Cil-y-coed
· Dôl Crug
· Rhandiroedd Crucornau
· Gardd Gymunedol Goetre
· Incredible Edible, Brynbuga
· Perllan Gymunedol Laurie Jones
· Parc Maerdy
· Rogiet – Pentref Ystyriol o Fywyd Gwyllt
· Cornfield
Cadwch Gymru’n Daclus sy’n gweinyddu rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Fe wnaeth arbenigwyr annibynnol yn y maes mannau gwyrdd rhoi eu hamser o’u gwirfodd i werthuso’r ymgeiswyr yn ôl rhestr o feini prawf trwyadl, yn cynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli amgylcheddol, a chyfranogiad cymunedol. I weld rhestr lawn o enillwyr Gwobrau’r Faner Werdd eleni, ewch i www.keepwalestidy.cymru.
Dywedodd y Cyng. Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae gennym gymaint o fannau gwyrdd ac atyniadau gwych ledled Sir Fynwy.
“Mae’r newyddion bod Castell Cil-y-coed wedi cyflawni’r Achrediad Safle Treftadaeth Werdd yn dangos ein hymrwymiad parhaus i warchod amgylcheddau naturiol a hanesyddol Sir Fynwy a’u gwella.
“Rwy’n ymfalchïo’n fawr yn y ffaith fod holl waith caled y gwirfoddolwyr a chydweithwyr yma yn Sir Fynwy wedi cael ei gydnabod unwaith eto gyda’r Gwobrau’r Faner Werdd.”
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Braf iawn yw gweld bod cymaint o’n lleoliadau hyfryd yn Sir Fynwy, sydd yn sir mor brydferth, wedi derbyn gwobrau eleni.
“Mae’n wych bod safleoedd fel Hen Orsaf Tyndyrn a Dolydd y Castell yn Y Fenni wedi cael eu cydnabod â gwobrau’r Faner Werdd.”
Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: “Rydym yn falch iawn o weld cymaint o fannau gwyrdd yn Sir Fynwy yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau’r Faner Werdd eleni. “O barciau blaenllaw, llynnoedd a chamlas i erddi cymunedol a pherllannau, mae’n amlwg bod y sir yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod mannau gwyrdd o bob math yn cyrraedd y safonau uchaf fel y gall pawb fynd ati i’w mwynhau.”