Skip to Main Content

Mae beicwyr modur yn cael eu gwahodd i ddylanwadu ar welliannau i ddiogelwch ar y ffyrdd yn y dyfodol trwy rannu eu profiadau o ddefnyddio ffyrdd Sir Fynwy.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi lansio arolwg er mwyn deall yr heriau a’r cyfleoedd y mae defnyddwyr y ffyrdd yn eu hwynebu ar draws y sir yn well. Bydd yr adborth yn ein helpu i adnabod lleoliadau lle gallai gwelliannau wella diogelwch a goleuo penderfyniadau am fuddsoddi yn y dyfodol.

Mae beicwyr modur yn cael profiad gwahanol o’r rhwydwaith ffyrdd o gymharu â llawer o ddefnyddwyr eraill, wrth deithio ar hyd llwybrau gwledig, cyffyrdd prysur, arwynebau ffyrdd sy’n newid ac amodau gwelededd amrywiol. Trwy glywed yn uniongyrchol gan feicwyr, mae’r Cyngor yn gobeithio cael golwg gwerthfawr ar y ffordd y mae’r ffyrdd yn cael eu defnyddio a ble y gallai gwelliannau wedi’u targedu gael yr effaith fwyaf.

Er bod ffocws yr arolwg ar feicwyr modur yn benodol, mae’r Cyngor hefyd yn awyddus i glywed gan yrwyr, beicwyr, cerddwyr ac unrhyw un sy’n teithio’n rheolaidd trwy Sir Fynwy. Bydd pob ymateb yn helpu i oleuo mesurau diogelwch ar y ffyrdd yn y dyfodol.

Bydd cyllid a sicrhawyd trwy Grant Trafnidiaeth Rhanbarthol Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwelliannau i ardaloedd allweddol o’r rhwydwaith priffyrdd, a bydd ymatebion i’r arolwg yn helpu i lunio’r blaenoriaethau.

Meddai’r Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Rydyn ni’n gwybod bod pobl yn cael profiadau gwahanol o’n ffyrdd, ac rydyn ni eisiau clywed yn uniongyrchol am y profiadau hynny. Mae’r arolwg hwn yn rhoi cyfle i feicwyr modur a defnyddwyr eraill y ffordd i ddweud wrthym am y llwybrau maen nhw’n eu defnyddio, yr heriau maen nhw’n eu hwynebu a’r gwelliannau yr hoffent eu gweld.

“Bydd eich adborth yn bwysig i’n helpu ni i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i bawb.”

Mae’n cymryd ychydig funudau yn unig i lenwi’r holiadur a bydd yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i ni i sut mae pobl yn teithio o amgylch y sir. Llenwch yr holiadur ar Sgwrsio Am Sir Fynwy heddiw: www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/ddiogelwch-beiciau-modur