Skip to Main Content

Mae Safonau Masnach Cyngor Sir Fynwy’n annog trigolion i fod yn wyliadwrus yn dilyn adroddiadau o fasnachwyr ar garreg drws sy’n cynnig gwasanaethau i dramwyfeydd a tharmac ar draws y sir.

Mae’r rhybudd yn dilyn adroddiadau gan drigolion am unigolion yn curo ar ddrysau ac yn cynnig gwneud gwaith wyneb i’w tramwyfeydd. Mewn rhai achosion, honnir bod galwyr wedi defnyddio tactegau gwerthu taer, wedi gwrthod gadael pan ofynnwyd iddynt, neu wedi honni eu bod yn gweithio ar ran y cyngor.

Mae Safonau Masnach yn cynghori trigolion i fod yn ofalus o unrhyw fasnachwr sy’n dod heb wahoddiad ac yn pwyso arnynt i wneud penderfyniad ar unwaith.

Dywedodd y Cyng. Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Rydym yn bryderus am adroddiadau o fasnachwyr ar garreg y drws yn defnyddio tactegau gwerthu taer a honiadau camarweiniol i gael ymddiriedaeth trigolion. Mae gan bawb yr hawl i deimlo’n ddiogel ac yn hyderus yn eu cartref eu hunain, ac ni ddylai unrhyw un byth deimlo dan bwysau i wneud penderfyniad yn y fan a’r lle. Bydd busnesau ag enw da’n hapus i ddarparu gwybodaeth, ateb cwestiynau a rhoi amser i bobl ystyried eu dewisiadau.

Byddem hefyd yn annog preswylwyr i gadw golwg ar ffrindiau, aelodau o’r teulu a chymdogion a allai fod yn fwy agored i’r math hwn o ddulliau. Trwy gefnogi ein gilydd a dweud am bryderon, gallwn helpu i amddiffyn ein cymunedau a sicrhau bod gan bobl y wybodaeth y mae ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau gwybodus.”

Cynghorir trigolion i:

  • Osgoi trafod gyda phobl sy’n gwerthu ar garreg drws neu brynu gwasanaethau gan unrhyw un sy’n dod heb wahoddiad.
  • Peidio byth â chytuno i waith gael ei wneud yn syth.  Mae masnachwyr twyllodrus yn aml yn gofyn am daliadau rhy uchel neu’n gadael gwaith heb ei wneud.
  • Gwirio’n ofalus pwy ydyn nhw.  Bydd swyddogion y cyngor a busnesau ag enw da’n fodlon eich bod yn gwirio hyn.
  • Dweud am ymddygiad amheus er mwyn helpu Safonau Masnach i ymchwilio ac atal digwyddiadau pellach.
  • Cefnogi cymdogion bregus a allai fod yn fwy agored i gael eu dylanwadu gan bobl yn ceisio gwerthu iddyn nhw.
  • Defnyddio cynlluniau cymeradwyo masnachwyr fel TrustMark a Buy With Confidence.

Anogir unrhyw un sy’n profi neu’n dyst i ymddygiad amheus ar garreg y drws i gysylltu â’r Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133. Mae’r gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda Safonau Masnach i nodi a mynd i’r afael â masnachu twyllodrus.

Mae rhagor o gyngor ar ddewis masnachwr ag enw da ar gael gan Gyngor ar Bopeth: https://www.citizensadvice.org.uk/consumer/get-more-help/find-a-trader-and-check-you-can-trust-them/