Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn dod  â’i ymgyrch Natur Wyllt yn ôl  yr haf hwn, ac yn annog agwedd fwy hamddenol at dorri’r glaswellt er mwyn helpu bywyd gwyllt i ffynnu.

Erbyn hyn mae’r fenter ar ei chweched flwyddyn. Mae’n cyd-fynd ag Wythnos Natur Cymru (4–12 Gorffennaf) ac yn canolbwyntio ar sut y gall torri glaswellt yn llai aml mewn ardaloedd penodol roi hwb i fioamrywiaeth ar draws y sir.

Yn hytrach na thorri ymylon, parciau a mannau agored yn rheolaidd, mae’r Cyngor yn gadael rhai ardaloedd i dyfu trwy’r gwanwyn a’r haf. Mae hyn yn rhoi cyfle i flodau gwyllt flodeuo ac yn creu cynefinoedd hanfodol i wenyn, pili-palaod a phryfed eraill sy’n peillio.

Cafodd y dull ei dreialu gyntaf yn Nhrefynwy yn 2020 ac ers hynny mae wedi cael ei gyflwyno ar draws y sir. Sir Fynwy oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i adolygu rheolaeth glaswelltiroedd yn benodol er budd bioamrywiaeth.

Mae’n dda i natur, ond mae hefyd yn harddu mannau gwyrdd a gall eich helpu i ddod yn agosach at natur a rhoi hwb i’ch llesiant. Ewch am dro ar hyd un o’r llwybrau sydd wedi’u torri trwy ardal o ddôl a gallech fod yn cerdded ochr yn ochr â bywyd gwyllt, gan gynnwys Sioncyn y Gwair a phili-palaod, gyda blodau gwyllt a gweiriau yn cynnig tirwedd gyfoethog.

Meddai’r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby: “Mae Natur Wyllt yn golygu gwneud pethau ychydig yn wahanol er mwyn creu canlyniadau gwell i fywyd gwyllt. Trwy dorri glaswellt yn llai aml ac ar yr adegau iawn, gallwn helpu i adfer natur a chreu mannau sy’n llawn lliw a bwrlwm.

“Efallai y bydd yr ardaloedd hyn yn edrych yn wahanol, ond maen nhw’n chwarae rhan hanfodol – yn cefnogi pryfed sy’n peillio, yn storio carbon ac yn helpu i reoli llifogydd. Mae’n newid syml sy’n gwneud gwahaniaeth mawr.”

Yn ôl y Cyngor mae’r cynllun yn helpu i greu cynefinoedd cryfach, sydd wedi eu cysylltu’n well, yn barod, ar draws Sir Fynwy, ac mae’n rhan o waith ehangach i daclo’r argyfwng hinsawdd a natur.

Mae trigolion hefyd yn cael eu hannog i gymryd rhan yn ystod Wythnos Natur Cymru trwy adael i rannau o’u gerddi eu hunain dyfu, plannu blodau gwyllt neu greu cynefinoedd bach i fywyd gwyllt.

Ewch i Natur Wyllt – Sir Fynwy i gael gwybodaeth a chyngor am sut i annog mwy o fioamrywiaeth yn eich gardd.

Tags: