Yr haf hwn, mae Trefynwy yn troi’n llyfr stori enfawr.
Mae yna wahoddiad i blant a theuluoedd i gamu i fyd hudolus Julia Donaldson ac Axel Scheffler wrth i lwybr stori newydd sbon gyrraedd Trefynwy.
O dywysoges yn hedfan drwy’r awyr i ffon sy’n ffeindio’i ffordd adref, gall anturiaethwyr ifanc ddilyn y map, gweld eu hoff gymeriadau a mwynhau antur yn llawn hwyl a sbri o amgylch y dref.
I ddechrau’r daith, gall teuluoedd gasglu map y llwybr am ddim o Hyb a Llyfrgell Trefynwy o ddydd Sadwrn, 18 Gorffennaf 2026, cyn dechrau ar daith sy’n llawn straeon, syrpreisys a llond lle o gyfleoedd i’w darganfod.
Mae’r llwybr yn dathlu’r llyfrau poblogaidd a grëwyd gan Julia Donaldson ac Axel Scheffler, y ddeuawd arobryn y tu ôl i ffefrynnau gan gynnwys Brig-ddyn a Zog.
Tra byddwch ar eich antur, peidiwch ag anghofio archwilio rhai o’r busnesau gwych o amgylch Trefynwy. Dydych chi byth yn gwybod pa syrpreis allai fod yn aros i chi rownd y gornel i danio’ch dychymyg.
Meddai’r Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Alla’ i ddim aros i weld y llwybr cyffrous hwn yn Nhrefynwy. Mae straeon Julia Donaldson ac Axel Scheffler wedi sbarduno dychymyg cenedlaethau o blant, ac mae hwn yn gyfle gwych i blant gamu i fyd eu hoff gymeriadau. Gobeithiwn y bydd teuluoedd yn mwynhau archwilio’r dref a chreu atgofion hudolus gyda’i gilydd.”
“Cofiwch, unwaith fyddwch chi wedi cwblhau’r llwybr, does dim rhaid i’r stori orffen. Cymerwch eich amser i ddarganfod y straeon sy’n aros amdanoch yn y llyfrgell a gadewch i’ch dychymyg redeg yn wyllt.”
Efallai eich bod chi’n ddigon dewr i ddod o hyd i’r rhai drygionus, yn barod i hedfan fry ochr yn ochr â Zog, neu’n awyddus i ymuno â Brig-ddyn ar antur. Beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd, mae yna rywbeth i bob un sydd wrth eu bodd â llyfrau.
Felly, cydiwch yn eich map, clymwch eich esgidiau cerdded a pharatowch am antur llyfr stori yng nghanol Trefynwy.
Barod i ddechrau ar eich antur? Casglwch fap am ddim ar gyfer y llwybr o Hyb a Llyfrgell Trefynwy o ddydd Sadwrn, 18 Gorffennaf 2026. Am yr amserau agor a rhagor o wybodaeth am Hyb a Llyfrgell Trefynwy, ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/community-hubs-and-libraries/community-hubs-opening-hours/
Ar ôl cwblhau’r llwybr, does dim eisiau i’r hwyl ddod i ben – ymunwch â Sialens Ddarllen yr Haf: Cyfrolau’n Canu. Gall plant gofrestru yn Hyb a Llyfrgell Trefynwy, darganfod llyfrau gwych, ennill gwobrau, a mwynhau darllen trwy gydol yr haf. Mae’n rhad ac am ddim ac yn ffordd wych o gadw’r antur i fynd gyda hyd yn oed mwy o straeon hudolus.