Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch o gyhoeddi bod y gwaith adeiladu wedi dechrau ar gyfer Pont Teithio Llesol Llan-ffwyst i’r Fenni.
Bydd y bont teithio llesol newydd yn galluogi pobl i deithio ar droed, ar olwynion neu ar feic yn hytrach na defnyddio’u ceir.
Bydd y bont yn croesi Afon Wysg rhwng Merthyr Road a Dolydd y Castell, gan gynnig llwybrau cynaliadwy mwy deniadol ac uniongyrchol rhwng Llan-ffwyst a’r Fenni.
Bydd y bont yn cael ei hadeiladu o drawstiau dur gyda chladin pren fel ei bod yn asio i’r amgylchedd naturiol.
Unwaith y bydd strwythur y bont yn ei le, bydd rampiau’n cael eu hadeiladu i gysylltu’r bont â’r llwybrau ar Ddolydd y Castell a Merthyr Road, Llan-ffwyst. Mae gwelliannau wedi’u cynllunio hefyd i lwybrau cyswllt.
















Mae’r Cyngor wedi penodi Balfour Beatty fel y prif gontractwr i gyflawni’r cynllun, gyda chefnogaeth buddsoddiad o £10.4 miliwn gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a £3.6 miliwn gan Gronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Disgwylir cwblhau’r strwythur ym mis Medi 2027, a bydd y gwaith yn cael ei wneud mewn camau oherwydd cyfyngiadau ecolegol a chyfyngiadau’r safle.
Rydyn ni wedi gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod anghenion defnyddwyr Dolydd y Castell yn cael eu diwallu a bod pryderon yn cael sylw. Bydd y cynllun yn cynnwys gwaith i gefnogi Cynllun Rheoli Dolydd y Castell.
Mae Dolydd y Castell, lle bydd y bont yn glanio ar ochr y Fenni, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac mae Afon Wysg yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Mae’r cynllun adeiladu yn cynnwys mesurau i liniaru effeithiau negyddol ac yn cynnwys buddion net.
Meddai’r Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Rwy’n falch iawn o weld bod y gwaith ar y bont newydd wedi dechrau.
“Bydd y bont hon yn cynnig cysylltiad gwell a gwyrddach er mwyn i bobl gael mynediad i ganol tref y Fenni.
“Dyma brosiect cymhleth sydd wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd lawer a bydd yn cymryd sawl blwyddyn i’w gwblhau oherwydd y cyfyngiadau, wrth i ni weithio mewn ffordd sy’n parchu bioamrywiaeth afon Wysg a’r dolydd.”
Cewch ragor o wybodaeth am y cynllun a chyfle i danysgrifio i gylchlythyr Pont Teithio Llesol Llan-ffwyst i’r Fenni, yma: https://abergavennyactivetravelbridge.co.uk/cymru