Skip to Main Content

Cynhaliwyd Diwrnod Ymwybyddiaeth Baw Cŵn ar 9 Gorffennaf 2026 ar draws Trefynwy, Rhaglan a Brynbuga, gan ganolbwyntio ar ardaloedd lle adroddwyd am faw cŵn a methiant i gydymffurfio â Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Cyngor Sir Fynwy (Rheoli Cŵn) 2024.

Aeth y cynllun i fannau prysur hysbys, gan gynnwys Chippenham Mead, Parc Rockfield, Ysgol Gynradd Rhaglan a’r ardal chwarae, Clwb Athletau Brynbuga, a Chae’r Mileniwm.

Ymunodd Cynghorwyr Sir, Tref a Chymuned â swyddogion Cyngor Sir Fynwy. Roedd Swyddogion Gorfodi Sifil hefyd wrth law i siarad â thrigolion a chael dealltwriaeth uniongyrchol o’r heriau baw cŵn i gymunedau lleol, ysgolion a chlybiau chwaraeon. Roedd eu presenoldeb yn cefnogi gwaith parhaus y cyngor i wella cydymffurfiaeth a helpu i gadw mannau cyhoeddus yn lân ac yn ddiogel.

Oherwydd y tywydd poeth, roedd llawer o gerddwyr cŵn wedi cwblhau eu teithiau cerdded erbyn canol y bore. Fodd bynnag, llwyddodd swyddogion i siarad â sawl perchennog yn Nhrefynwy, gyda’r mwyafrif yn dangos dealltwriaeth dda o’r cyfyngiadau GDMC ac yn cario bagiau gwastraff. Roedd bagiau ychwanegol ar gael i annog gwaredu cyfrifol, naill ai mewn biniau cyhoeddus neu gartref.

Er gwaethaf yr ymgysylltiad cadarnhaol hwn, roedd baw cŵn yn dal i’w weld ar y llwybr ger y fynedfa i Ysgol Gynradd Rhaglan ac ym Mharc Rockfield.

Mae’r diwrnod ymwybyddiaeth yn rhan o waith parhaus y cyngor i addysgu perchnogion cŵn am eu cyfrifoldeb i lanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes a’u hatgoffa na ddylid cerdded cŵn ar gaeau chwaraeon. Er bod y mwyafrif o berchnogion cŵn yn dilyn y rheolau, mae lleiafrif bach yn parhau i ganiatáu baeddu, yn gwaredu gwastraff mewn ffordd anghyfrifol, neu’n cerdded cŵn mewn ardaloedd gwaharddedig.

Dywedodd y Cyng. Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Diolch i’r swyddogion a chynghorwyr a gymerodd ran yn y diwrnod ymwybyddiaeth.

“Mae’r digwyddiadau hyn yn bwysig i’n hatgoffa bod yn rhaid i bob perchennog cŵn gydymffurfio â rheolau GDMC.

“Mae Cynghorau Tref a Chymuned yn gweithio’n galed ochr yn ochr â’r cyngor i ddarparu biniau i gerddwyr cŵn lleol, ac rydym yn gwybod bod y mwyafrif helaeth o berchnogion yn gweithredu’n gyfrifol. Bydd presenoldeb Swyddogion Gorfodi Sifil yn helpu i annog cydymffurfiaeth barhaus ac yn mynd i’r afael â’r nifer fach o bobl nad ydynt yn dilyn y rheolau.

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth gadw Sir Fynwy yn lân, yn wyrdd ac yn groesawgar. Mae gweithred syml fel codi baw eich ci’n helpu i warchod ein plant, ein clybiau chwaraeon, ein parciau a phawb sy’n mwynhau’r mannau cyffredin hyn.”

Am ragor o wybodaeth am GDMC, ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/cy/diogelwch-cymunedol/ggmc/