Skip to Main Content

Daeth Cyngor Sir Fynwy â chogyddion, partneriaid a hyrwyddwyr bwyd o bob rhan o Gymru at ei gilydd i ddathlu dyfodol prydau ysgol yn Dyfodol Maethlon: Dathlu Bwyd Ysgol yn Sir Fynwy.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Orchard Kitchen ger Trefynwy, ac roedd yn arddangos rôl hanfodol y timau arlwyo ysgolion wrth ddarparu prydau maethlon o ansawdd uchel i blant, ac yn tynnu sylw at y cynnydd sy’n cael ei wneud mewn ceginau ysgol ar draws y sir.

Ffocws allweddol oedd partneriaeth y Cyngor â Chefs in Schools, sy’n helpu i drawsnewid bwyd ysgol yn lleol trwy fuddsoddi mewn sgiliau, hyder a datblygiad proffesiynol. Mae’r rhaglen yn cefnogi staff arlwyo i gryfhau sgiliau coginio craidd, gwella gwybodaeth am faeth a meithrin diwylliant prydau ysgol cadarnhaol.

Roedd y digwyddiad, yn dathlu carfan o 28 o gogyddion ysgol sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant a chroesawyd grŵp newydd o 15 a oedd yn dechrau ar eu taith.

Trwy’r rhaglen, mae timau’n datblygu sgiliau ymarferol i ddefnyddio mwy o gynhwysion lleol, ffres, lleihau gwastraff bwyd a chreu prydau maethlon, apelgar sy’n annog plant i flasu bwydydd newydd a mwynhau prydau ysgol.

Fe fu’r rheiny a oedd yn y digwyddiad yn profi’r creadigrwydd sydd ar gynnydd yng ngheginau ysgolion Sir Fynwy, ac roedd cyfle i flasu bwydydd a baratowyd gan dîmau arlwyo ysgolion gan gynnwys gwacamole pys, côlslo’r enfys, a thomato, reis a ffa Mecsicanaidd, ac arddangosiadau coginio byw o goginio ar dân agored gan y cogyddion arobryn Sam Evans a Shauna Guinn yn Hang Fire BBQ ynghyd â gweithdai gwneud bara arbenigol.

Roedd y dathliad yn adlewyrchu cynnydd ehangach ar draws y sir, gan gynnwys mwy o goginio o’r dechrau’n deg, cysylltiadau cryfach â chynhyrchwyr lleol a phwyslais cynyddol ar addysg am fwyd ac ymgysylltu â disgyblion.

Meddai’r Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae ein timau arlwyo ysgolion wrth galon pob ysgol gynradd, ac yn paratoi bwyd maethlon a blasus i bob plentyn, bob dydd. Trwy raglenni fel Chefs in Schools, rydyn ni’n buddsoddi yn sgiliau a hyder ein timau arlwyo i goginio o’r dechrau’n deg, gan ysbrydoli plant i fwynhau bwyd ffres, tymhorol a lleol.”

Meddai Naomi Duncan, Prif Weithredwr Chefs in Schools: “Mae Sir Fynwy wedi gwneud rhywbeth gwirioneddol brin – mae wedi rhoi ei thimau arlwyo wrth galon ei huchelgeisiau ar gyfer plant. Mae Helen a’i chydweithwyr wedi cwblhau rhaglen hyfforddi; ond yn fwy na hynny maen nhw wedi newid sut mae bwyd ysgol yn edrych ac yn blasu i filoedd o blant ar draws y sir. Mae gwylio cogyddion ysgol yn pobi bara, yn blasu pethau newydd ac yn ysbrydoli’r garfan nesaf i wneud yr un peth mewn lleoliad hardd yn Sir Fynwy, yn ein hatgoffa beth yw hanfod y gwaith hwn mewn gwirionedd. Rydyn ni’n falch dros ben o bob un ohonyn nhw, ac allwn ddim aros i weld beth fyddan nhw’n ei goginio nesaf.”