Mae cymunedau ar draws Sir Fynwy yn gryfach oherwydd ymroddiad gofalwyr maeth lleol, ac fe gawson nhw gydnabyddiaeth mewn digwyddiad gwerthfawrogi arbennig a gynhaliwyd gan Faethu Cymru Sir Fynwy ddydd Gwener, 5 Mehefin 2026.
Daeth y digwyddiad â gofalwyr maeth o bob rhan o’r sir at ei gilydd i ddiolch iddynt am eu hymroddiad, eu tosturi a’u hymrwymiad i ddarparu cartrefi diogel, sefydlog sy’n meithrin, i blant mewn gofal. Roedd yn gyfle hefyd i fyfyrio ar yr effaith gadarnhaol a pharhaol y mae gofalwyr maeth yn ei chael, ar fywydau unigolion ifanc a hefyd ar draws y gymuned ehangach.
Mae gofalwyr maeth wrth galon y gymuned, ac yn cynnig llawer mwy na lle i fyw. Maen nhw’n rhoi arweiniad, anogaeth ac ymdeimlad o berthyn, gan helpu plant a phobl ifanc i fagu hyder, datblygu perthnasoedd a chyflawni eu potensial llawn, yn aml yn ystod rhai o’r adegau mwyaf heriol yn eu bywydau.
Mae eu cefnogaeth yn galluogi llawer o blant i aros yn agos at eu hardal leol, eu hysgolion, eu ffrindiau a’u rhwydweithiau cymorth, ac mae hynny’n holl bwysig i’w llesiant a’u canlyniadau hirdymor.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch, y Cynghorydd Ian Chandler: “Mae ein gofalwyr maeth yn chwarae rhan bwysig dros ben yn ein cymunedau. Maen nhw’n cynnig cartref i blant a phobl ifanc, ond ar ben hynny sefydlogrwydd pan fydd ei angen fwyaf arnynt.
“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am bopeth maen nhw’n ei wneud. Mae’r digwyddiad hwn yn ffordd fach o gydnabod eu hymroddiad a’r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud bob dydd, sy’n newid bywydau.”
Mae Maethu Cymru Sir Fynwy yn annog mwy o bobl i ystyried maethu, ac mae yna opsiynau gwahanol i gyd-fynd â bywydau ac amgylchiadau gwahanol. Mae’r rhain yn cynnwys gofal byrdymor, gofal hirdymor, seibiannau byr neu ofal seibiant, a lleoliadau rhiant a phlentyn, ac mae pob un yn cynnig y cyfle i wneud gwahaniaeth parhaol i blentyn neu aelod o’r teulu.
Gyda’r gefnogaeth, yr hyfforddiant a’r arweiniad iawn gan y tîm lleol, gall dod yn ofalwr maeth fod yn gyfle gwerth chweil i wneud gwahaniaeth go iawn, gan helpu i sicrhau bod mwy o blant yn gallu aros yn eu cymuned, yn agos at yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw. Am ragor o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth, ewch i https://sirfynwy.maethucymru.llyw.cymru/