Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi penodi dau Swyddog Gorfodi Sifil Rheoli Sbwriel a Chŵn yn rhan o gynllun peilot am chwe mis i helpu i leihau sbwriel a gwella cydymffurfiaeth â rheoliadau’r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar gyfer Rheoli Cŵn.

Nod y fenter yw cefnogi mannau cyhoeddus agored glanach, mwy diogel a mwy deniadol ar draws y sir.

Er bod mwyafrif helaeth perchnogion cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol, mae’r Cyngor yn parhau i gael cwynion rheolaidd am faw cŵn a chŵn mewn ardaloedd dan gyfyngiadau, gan gynnwys caeau chwaraeon lle mae gwaharddiadau wedi bod ar waith er 2024.

Bydd y swyddogion yn gweithio ar draws ardaloedd trefol a gwledig, gan dargedu mannau lle mae sbwriel a diffyg cydymffurfio yn bla. Maent wedi’u hawdurdodi i gyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig ar gyfer tramgwyddau, gan gynnwys:

  • £75 am ollwng sbwriel (£50 os caiff ei thalu o fewn 10 diwrnod)
  • £100 am dorri’r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (£75 os caiff ei thalu o fewn 10 diwrnod)

Gellir cyfeirio achosion mwy difrifol at y llys, lle gellir cyhoeddi dirwyon o hyd at £2,500.

Rydyn ni’n atgoffa trigolion y gellir osgoi cosbau trwy ddilyn ambell i gam syml:

  • Gwaredwch eich sbwriel yn gyfrifol trwy ddefnyddio biniau neu ewch â’ch sbwriel adref gyda chi
  • Dilynwch reolau rheoli cŵn y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, gan gynnwys ufuddhau i arwyddion mewn ardaloedd dan gyfyngiadau fel caeau chwaraeon ac ardaloedd chwarae i blant
  • Cadwch gŵn ar dennyn pan fo angen, gan gynnwys mewn mynwentydd a safleoedd hanesyddol
  • Glanhewch ar ôl eich ci bob tro a gwaredwch y gwastraff yn briodol
  • Cariwch fagiau baw cŵn bob tro fyddwch chi’n cerdded eich ci
  • Rhowch gŵn ar dennyn byr pan fydd swyddog awdurdodedig yn gofyn i chi wneud hynny

Meddai’r Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Rydyn ni wedi cael mwy a mwy o bryderon gan wirfoddolwyr lleol am sbwriel a baw cŵn parhaus. Mae digwyddiadau diweddar, gan gynnwys gohirio twrnamaint pêl-droed oherwydd baw cŵn ar y caeau, a risgiau tân o wastraff barbeciw a adawyd yn ystod gwres chwilboeth y gwanwyn, yn tynnu sylw at yr angen am fesurau gorfodi cryfach.

“Er ein bod yn gwerthfawrogi cefnogaeth y gymuned ac eisiau diolch i’r trigolion lleol niferus sy’n gwneud y peth iawn a hefyd yn annog eraill i wneud y peth iawn, mae’n hanfodol ein bod hefyd yn cynnal y gyfraith i ddiogelu ein mannau cyhoeddus agored.”

Cewch ragor o wybodaeth, gan gynnwys mapiau safleoedd a manylion ardaloedd dan gyfyngiadau, ar: www.monmouthshire.gov.uk/cy/gorchymyn-diogelu-mannau-cyhoeddus-2024-rheoli-cwn-atodiad-1-rhestr-gyfeirio/