Gwahoddir trigolion i ymuno â dathliad cymunedol sy’n nodi adferiad llwyddiannus coetir annwyl yng Nghomin y Felin, wrth galon Magwyr a Gwndy.
Mae cwblhau Prosiect Grant Buddsoddi mewn Coetir Comin y Felin wedi trawsnewid y safle, gan wella’i iechyd ecolegol, gwella hygyrchedd, a chryfhau ei werth fel man gwyrdd annwyl iawn ar gyfer y gymuned leol.
Bydd digwyddiad dathlu BioBlitz, a gynhelir ddydd Sadwrn 27 Mehefin, rhwng 10am a 4pm, yn cydnabod cyfraniad neilltuol Hyrwyddwyr Coetir Comin y Felin – sef grŵp newydd o wirfoddolwyr y mae eu hamser, eu hymrwymiad a’u brwdfrydedd wedi bod yn allweddol wrth wireddu’r prosiect adfer.
Mae gwelliannau pwysig i’r coridor gwyrdd pwysig hwn yn cynnwys cael gwared ar goed yr oedd clefyd y coed ynn wedi effeithio arnynt a phlannu coed newydd i gynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau sy’n tyfu yno, creu llwybrau newydd a gwell, ac ychwanegu llwybr cerfluniau, byrddau dehongli a meinciau, gan fanteisio i’r eithaf ar ei leoliad unigryw ym Magwyr a Gwndy, yn edrych allan dros dirwedd hardd Gwastadeddau Gwent ac Aber Afon Hafren.
Mae’r digwyddiad BioBlitz yn gyfle gwych i drigolion archwilio’r coetir ar ei newydd wedd a chael rhagor o wybodaeth am fioamrywiaeth gyfoethog yr ardal. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys cyfleoedd i ddysgu am fywyd gwyllt lleol a sut i gofnodi rhywogaethau fel adar, pryfed, pryfed sy’n peillio a blodau gwyllt.
Cyn i’r Prosiect Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) ddechrau, roedd Comin y Felin yn wynebu nifer o heriau mawr, gan gynnwys amrywiaeth gyfyngedig o goed, clefyd y coed ynn yn rhemp, coed aeddfed yn gorlenwi’r lle, a dirywiad y llwybrau a’r grisiau. Mae’r gwaith adfer wedi rhoi sylw i’r materion hyn, gan helpu i sicrhau dyfodol hirdymor y coetir.
Cefnogwyd y prosiect gan y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG), a weinyddir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru.
I gydnabod llwyddiant y prosiect, bydd Comin y Felin hefyd yn safle blaenllaw yng Nghoedwig Genedlaethol Cymru. Mae’r achrediad hwn yn tynnu sylw at y coetir fel safle cynaliadwy, bioamrywiol, wedi’i reoli’n dda ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol sy’n hygyrch i’r gymuned leol ei fwynhau.
Meddai’r Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae Comin y Felin yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan ddaw cymuned at ei gilydd gyda gweledigaeth gyffredin. Mae’r coetir pwysig hwn wedi cael ei adfywio a’i ddiogelu er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau, ac mae’n ysbrydoliaeth ar gyfer prosiectau tebyg ar draws Sir Fynwy a thu hwnt.
“Hoffwn ddiolch o waelod calon i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi gweithio’n ddiflino i adfer y lle arbennig hwn ac i ofalu amdano. Rwy’n annog trigolion o Fagwyr, Gwndy a’r ardaloedd cyfagos i alw heibio ddydd Sadwrn 27 Mehefin i ddathlu popeth a gyflawnwyd yno – mae croeso cynnes i bawb.”