Mae Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Brynbuga yn cydweithio er mwyn gwella mannau cyhoeddus Brynbuga, trwy brosiect sy’n canolbwyntio ar Stryd y Bont a Sgwâr Twyn.
Y nod yw creu mannau mwy diogel, mwy cyfeillgar i bobl, sy’n cefnogi canol tref mwy bywiog, yn cynyddu nifer yr ymwelwyr i fusnesau lleol, yn sicrhau dewis ehangach o weithgareddau a digwyddiadau ac yn parhau i hwyluso symudiad traffig fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.
I weld y cynigion, gwahoddir trigolion a busnesau i gwrdd â swyddogion y Cyngor a’r tîm dylunio ddydd Gwener, 15 Mai rhwng 10am a 6:30pm a dydd Sadwrn, 16 Mai rhwng 9am a 2pm yn The Grange, 16 Stryd Maryport, Brynbuga NP15 1AE.
Bydd y cynigion hefyd ar gael ar-lein o ddydd Gwener, 15 Mai trwy Sgwrsio Am Sir Fynwy, lle bydd trigolion yn gallu gweld y cynigion a rhoi eu hadborth.
Ewch i www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/brynbuga-eich-canol-tref-eich-llais am ragor o wybodaeth
Bydd copïau papur o’r holiadur ar gael gan Gyngor Tref Brynbuga yn Nhŷ’r Sesiynau neu yn yr Hwb Cymunedol, y ddau ar Stryd Maryport ym Mrynbuga o ddydd Llun 18 Mai.
Bydd gan drigolion hyd nes ddydd Sul, 7 Mehefin 2026, i lenwi’r holiadur.
Bydd y prif hysbysfyrddau hefyd yn cael eu harddangos rhwng 18 Mai a 7 Mehefin yn Nhŷ’r Sesiynau a bydd hysbysfyrddau mwy cryno y tu allan i’r Co-op ym Mrynbuga.
Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy a’r Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Paul Griffiths: “Dyma gyfle i wella canol tref Brynbuga mewn ffordd sy’n cefnogi busnesau lleol, yn annog mwy o bobl i dreulio amser yn yr ardal, ac yn dal i gydnabod sut mae ar bobl angen symud o gwmpas y dref. Mae’r cynigion hyn wedi deillio o drafodaethau rhwng cynghorwyr tref a sir ym Mrynbuga, sydd i gyd yn awyddus i sicrhau bod trigolion yn cael cyfle i ddweud eu dweud. Edrychwch ar y cynigion wedi iddyn nhw lansio ddydd Gwener, 15 Mai a rhannwch eich barn gyda ni.”
Meddai’r Cynghorydd Diane Richards, Maer Brynbuga: “Mae Cyngor Tref Brynbuga yn falch iawn o weld Cynllun Gwella Tref Brynbuga yn symud ymlaen i’r cam ymgynghori hwn. Mae’r weledigaeth hon ar gyfer ein tref yn gam pwysig wrth i ni fuddsoddi yn nyfodol ein tref, ac rydyn ni eisiau sicrhau bod trigolion a busnesau yn teimlo’n rhan lawn o’r daith honno. Rydyn ni’n awyddus i glywed barn pobl am y dyluniadau wrth iddynt ddatblygu, ac rydyn ni’n annog pawb i rannu eu barn fel bod y canlyniad terfynol yn adlewyrchu cymeriad Brynbuga a’i hanghenion.”
Meddai Cadeirydd Creu Lleoedd Brynbuga a’r Cynghorydd Sir lleol, y Cynghorydd Meirion Howells: “Mae’r cynigion hyn yn rhoi cyfle go iawn i drigolion a busnesau i ddylanwadu ar esblygiad canol ein tref. Rydyn ni eisiau mannau sy’n fwy diogel ac yn fwy croesawgar, ac sy’n cefnogi digwyddiadau, yn rhoi hwb i nifer yr ymwelwyr, ac yn cryfhau hunaniaeth Brynbuga fel tref fywiog sy’n llawn bwrlwm. Rydyn ni’n annog pawb i edrych ar y cynlluniau ac i rannu eu barn fel bod y dyluniad terfynol yn adlewyrchu anghenion ein cymuned gyfan.
Meddai Cadeirydd Parth Cyhoeddus Brynbuga a’r Cynghorydd Sir lleol, y Cynghorydd Tony Kear: “Â minnau wedi byw ym Mrynbuga ers dros 50 mlynedd a bellach yn gadeirydd ar Grŵp Busnes Brynbuga yn ogystal â’r pwyllgor parth cyhoeddus hwn, rwy’n teimlo’n angerddol ynghylch gweld newidiadau i’r amgylchedd i wella profiad trigolion a siopwyr yma. “Rydw i mor gyffrous i weld ein trafodaethau yn cael eu trawsnewid yn gynigion a dyluniadau y gall y cyhoedd ddweud eu dweud amdanynt. Mae’n hollol iawn ein bod ni’n ceisio eu barn ac rwy’n annog cymaint o bobl â phosibl i ddweud eu dweud. Rwy’n siŵr y bydd y cynlluniau terfynol ar gyfer Sgwâr Twyn a Stryd y Bont yn gwneud gwahaniaeth mawr.”