Mae Maethu Cymru Sir Fynwy yn nodi Pythefnos Gofal Maeth eleni trwy alw ar drigolion i ystyried dod yn ofalwyr maeth.
Pythefnos Gofal Maeth yw ymgyrch ymwybyddiaeth am faethu fwyaf y DU, ac mae’n dathlu’r gwahaniaeth y mae gofalwyr maeth yn ei wneud ac yn annog mwy o bobl i gamu ymlaen.
Daw maethu ar sawl ffurf, o ofal byrdymor a gofal mewn argyfwng i faethu hirdymor a seibiannau byr, gan gynnig opsiynau hyblyg sy’n gallu ffitio o gwmpas ffyrdd gwahanol o fyw ac ymrwymiadau gwahanol. Mae hyn yn golygu y gallech chi gynnig cymorth hanfodol i blant a phobl ifanc mewn ffordd sy’n gweithio i’ch bywyd teuluol a’ch amgylchiadau chi eich hun.
Er ein bod ni’n awyddus i annog pobl i ystyried maethu pob grŵp oedran, rydyn ni’n arbennig o awyddus i annog pobl i ystyried maethu pobl ifanc yn eu harddegau. Fel eu cyfoedion, mae angen cefnogaeth ar bobl ifanc yn eu harddegau sydd mewn gofal i’w helpu i ddod ymlaen yn dda yn yr ysgol, cael perthnasoedd iach a pharatoi at ddod yn annibynnol. Gall cartref maeth sefydlog gynnig cefnogaeth gyson a helpu pobl ifanc i fagu hyder wrth dyfu’n oedolion ac aros yn agos at deulu, ffrindiau a’u cymuned ar yr un pryd.
Mae Maethu Cymru Sir Fynwy yn annog unigolion a theuluoedd i gael rhagor o wybodaeth. Gyda’r gefnogaeth rydyn ni’n ei rhoi, gall maethu rhywun ifanc yn eu harddegau fod yn brofiad hynod o werth chweil a newid bywyd rhywun ifanc ar adeg dyngedfennol yn eu bywydau.
Bydd tîm nid-er-elw Maethu Cymru Sir Fynwy allan yn y gymuned trwy gydol y pythefnos, yn codi ymwybyddiaeth ac yn siarad â thrigolion am faethu.
Meddai’r Cynghorydd Ian Chandler, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch: “Mae gofalwyr maeth Sir Fynwy yn gwneud gwaith gwych i helpu plant a phobl ifanc i deimlo’n ddiogel a’u bod yn werthfawr ac yn cael eu cefnogi.
“Rydyn ni’n chwilio am ragor o bobl a allai gynnig cartref i bobl ifanc yn eu harddegau yn benodol. Mae ar y bobl ifanc hyn angen sefydlogrwydd, arweiniad a rhywun sy’n credu ynddynt wrth iddynt ddod yn annibynnol. Os ydych chi’n credu y gallech chi wneud gwahaniaeth, cysylltwch â ni.”
Mae gofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Sir Fynwy yn elwa ar gymorth lleol, hyfforddiant, rhwydweithiau cymheiriaid, lwfansau ariannol a mynediad at wasanaethau arbenigol.
Trwy faethu’n lleol, gall gofalwyr helpu plant a phobl ifanc i aros yn agos at y bobl a’r lleoedd sydd bwysicaf iddynt.
Os allwch chi gynnig cartref diogel a chefnogol i rywun ifanc, yna hoffai Maethu Cymru Sir Fynwy glywed gennych.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://sirfynwy.maethucymru.llyw.cymru/