Mae plant, athrawon, cynghorwyr a chynrychiolwyr Living Streets wedi dod at ei gilydd i ddathlu Wythnos Cerdded i’r Ysgol yng Ngilwern, trwy gerdded ar hyd llwybr cerdded sydd wedi cael ei uwchraddio.
Daeth ‘Strider’ i ymuno â nhw, sef masgot Cerdded i’r Ysgol elusen gerdded Living Streets, sy’n gweithio gydag Ysgol Gilwern i gefnogi plant i gerdded i’r ysgol a’u hannog i wneud hynny.

Defnyddiwyd Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i uwchraddio llwybr poblogaidd yn Ngilwern i helpu i wella mynediad i drigolion lleol i fynd i’r ysgol gynradd leol, ac yn ôl, o gartrefi i’r dwyrain o Gilwern.
Mae’r llwybr, sy’n rhedeg yn baralel â Heol Tŷ Mawr, yn cynnig llwybr cerdded gwell i ffwrdd oddi wrth y ffordd. Roedd y llwybr gwreiddiol wedi’i hindreulio, ac oherwydd hynny roedd y llwybr yn arw ac nid oedd modd ei ddefnyddio.

Mae’r cynllun hwn wedi uwchraddio’r llwybr, felly mae ganddo arwyneb nawr ac mae’n fwy hygyrch trwy gydol y flwyddyn, yn enwedig i’r rheiny sy’n defnyddio cadeiriau olwyn, sgwteri symudedd a chadeiriau gwthio. Er mwyn lliniaru unrhyw effaith ar y tir, planhigion, coed a bywyd gwyllt o’i amgylch, mae’r llwybr yn llwybr ‘dim palu’ sy’n golygu bod y llwybr wedi cael ei osod ar ben y tir sydd yno yn hytrach na phalu i lawr i’r ddaear. Roedd y gwaith yn cynnwys:
· Lledaenu’r llwybr
· Gosod arwyneb hydraidd gyda pheiriant
· Ychwanegu padiau cyffwrdd wrth fannau croesi ar y naill ben a’r llall i’r llwybr
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae gwaith uwchraddio fel hyn yn hanfodol er mwyn galluogi cymaint ohonom â phosibl i deithio’n llesol ar gyfer ein siwrneiau bob-dydd.
“Gyda’r gobaith fod tywydd cynhesach ar y ffordd, alla’ i ddim aros i weld sut mae’r llwybr yn cael ei ddefnyddio gan drigolion ac ymwelwyr.
“Roedd Cyngor Cymuned Llanelli yn glir fod y llwybr hwn yn flaenoriaeth, ac rwy’n falch ein bod ni wedi gallu ei gwblhau.”