Skip to Main Content

Cynhaliodd Cyngor Sir Fynwy ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ar 14 Mai 2026.

Yn ystod y cyfarfod, ailbenododd y cynghorwyr y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby yn ffurfiol yn Arweinydd y Cyngor, a bydd yn parhau i arwain gwaith y cyngor wrth gyflawni ei flaenoriaethau ar gyfer trigolion a chymunedau ledled Sir Fynwy.

Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’n fraint cael fy ail-ethol yn Arweinydd. Rwy’n parhau’n hynod falch o weithio ochr yn ochr â chynghorwyr ymroddedig, swyddogion penodedig ac, yn fwy na dim, pobl Sir Fynwy.

“Mae ein blaenoriaethau’n cael eu llywio gan yr hyn sy’n bwysicaf i’n cymunedau. Pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd, fel trigolion, partneriaid a’r cyngor, nid oes her na allwn ei goroesi. Yr undod hwnnw yw ein cryfder, ac mae’n parhau i ysgogi cyflawni ledled ein sir.”

Penododd y CCB hefyd Gadeirydd newydd ar gyfer Cyngor Sir Fynwy. Bydd y Cynghorydd Tudor Thomas, Cynghorydd Sir dros ward y Parc, yn olynu’r Cynghorydd Peter Strong. Mae cyfrifoldebau’r Cadeirydd yn cynnwys cefnogi trefn effeithiol cyfarfodydd y cyngor a gwasanaethu fel llysgennad dinesig dros y sir.

Ychwanegodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Peter Strong am y gwaith y mae wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf fel Cadeirydd y cyngor a hefyd i’r Cynghorydd Martyn Groucott am ei gefnogaeth ragorol fel Dirprwy Gadeirydd. Dymuniadau gorau i’r Cynghorydd Tudor Thomas am y flwyddyn sydd i ddod.”

Bydd y Cynghorydd Tudor Thomas yn cael ei gefnogi gan y Cynghorydd David Jones, Cynghorydd Sir dros ward Crucornau, fel Is-gadeirydd Cyngor Sir Fynwy.

Gyda chyllideb 2026/27 yn ei lle a’r Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol wrth ei wraidd, mae’r cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni, cefnogi pobl, cryfhau cymunedau a diogelu gwasanaethau hanfodol.

Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad parhaus mewn ysgolion a chefnogaeth i blant a phobl ifanc, ochr yn ochr â gwasanaethau gofal cymdeithasol cryfach sy’n helpu pobl i barhau’n annibynnol ac yn iach. Bydd gwasanaethau cymdogaeth hanfodol yn parhau i gael eu diogelu, gan sicrhau bod cymunedau’n aros yn ddiogel, yn gysylltiedig ag yn cael eu cefnogi.

Bydd y cyngor hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn seilwaith, economïau lleol a llesiant cymunedol, gan ehangu mynediad at wasanaethau yn nes at adref.

Wrth wraidd y blaenoriaethau hyn mae ymrwymiad i weithio ochr yn ochr â thrigolion, partneriaid a sefydliadau lleol. Drwy adeiladu ar ymgysylltu cryf, bydd y cyngor yn sicrhau bod lleisiau cymunedol yn parhau i lunio penderfyniadau a dyfodol Sir Fynwy.