Mae’r gwaith i drawsnewid Ardal Chwarae Castell Dell yng Nghas-gwent wedi dechrau’n swyddogol, a nodwyd yr achlysur gyda digwyddiad “rhoi’r rhaw yn y pridd” ddydd Mawrth, 19 Mai 2026.
Mae’r garreg filltir yn dod â’r prosiect hir-ddisgwyliedig gam yn nes at ei gwblhau. Bellach, mae’r gwaith adeiladu ar y gweill i osod offer chwarae newydd yn lle’r rhai a oedd yno, yr oedd llawer ohonynt wedi bod yno ers dros 50 mlynedd.
Lluniwyd y cynllun yn dilyn blynyddoedd o waith ymroddgar gan Gyfeillion Parc Dell Cas-gwent, sef grŵp gwirfoddol o rieni lleol a fu’n eirioli dros welliannau i’r safle am y tro cyntaf yn 2016. Mae eu hymgysylltiad parhaus â phlant a theuluoedd wedi helpu i sicrhau bod yr ardal chwarae newydd yn adlewyrchu’r hyn y mae’r gymuned ei eisiau a’i angen.
Ariennir y prosiect trwy grantiau gan Gyngor Tref Cas-gwent, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a’r Rhaglen Trawsnewid Trefi.
Mae’r gwaith gosod bellach ar y gweill, ac mae disgwyl i’r ardal chwarae newydd agor ym mis Gorffennaf, mewn da bryd ar gyfer gwyliau haf yr ysgolion.
Meddai’r Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae’n wych gweld bod y gwaith ar y prosiect cyffrous hwn ar gyfer Cas-gwent bellach ar y gweill. Mae Castle Dell yn fan mor bwysig i’r dref, a bydd yr ardal chwarae newydd hon yn gwneud gwahaniaeth go iawn i blant a theuluoedd lleol.
“Mae hon wedi bod yn ymdrech gymunedol go iawn. Mae angerdd ac ymrwymiad Cyfeillion Parc Dell, Cas-gwent, a phawb sy’n gysylltiedig wedi bod yn allweddol i ddod â ni i’r cam hwn, ac rwy’n falch iawn o weld eu gweledigaeth yn cael ei gwireddu.”
Meddai’r Cynghorydd Margaret Griffiths o Gyngor Tref Cas-gwent: “Mae Cyfeillion Parc Dell wedi dangos gwytnwch ac ymrwymiad dros y blynyddoedd ac o’r diwedd maent wedi cyrraedd y cam gweithredu ar gyfer y parc newydd.
“Mae Cyngor Tref Cas-gwent wrth ei fodd i weithio gyda nhw ac i ddarparu £100,000 tuag at y prosiect a fydd yn dod â llawenydd i lawer o blant ac yn hyrwyddo Canol Tref Cas-gwent.”
Meddai Vicky Burston-Yates, Cadeirydd Cyfeillion Parc Dell, Cas-gwent: “Allwn ni ddim aros i weld y parc yn blodeuo ac yn dod yn fan lle gall teuluoedd a ffrindiau chwarae, archwilio a dod at ei gilydd am flynyddoedd i ddod.
“Mae llais y gymuned wedi bod yn rhan annatod o’r prosiect hwn, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu syniadau.
“Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar dros ben am y gefnogaeth a gafwyd gan y Loteri Genedlaethol, Cyngor Tref Cas-gwent a Chyngor Sir Fynwy.”