Skip to Main Content

Bydd y gwaith o greu llwybr teithio llesol newydd, 500m o hyd, yng Nghil-y-coed, yn dechrau y mis hwn.

Bydd Llwybr Aml-ddefnydd Cil-y-coed yn rhan o’r rhwydwaith teithio llesol ehangach ar draws ardal Glannau Hafren yn Sir Fynwy.

Mae’r prosiect yn cynnwys creu llwybr teithio llesol newydd a fydd yn cysylltu pen gogleddol llwybr teithio llesol Cyswllt Cil-y-coed sydd wedi’i gwblhau, ar hyd yr hen reilffordd, gyda’r llwybr presennol o’r gorllewin i’r dwyrain trwy Barc Gwledig Castell Cil-y-coed.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gweithio gyda Burroughs a TACP (UK) Ltd i ddatblygu cynnig amlinellol ar gyfer y llwybr.

Disgwylir i’r gwaith fod ar y gweill tan fis Mehefin 2026.

Er diogelwch defnyddwyr y parc gwledig, bydd mynediad cyfyngedig i’r ardaloedd lle bydd y gwaith ar y gweill.

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael trwy arwyddion ar y safle ac ar wefan y prosiect.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy: “Mae teithio llesol yn cynnig manteision gwych i’ch iechyd a’ch llesiant yn ogystal â’ch iechyd meddwl.

“Mae hefyd yn helpu i ddod â chymunedau’n agosach at ei gilydd ac yn lleihau llygredd aer ar yr un pryd.

“Allwn ni ddim aros i weld trigolion ac ymwelwyr allan yn mwynhau Llwybr Aml-Ddefnydd newydd Cil-y-coed unwaith fydd y gwaith wedi’i gwblhau.”