Ddydd Mercher, 25 Mawrth 2026, daeth pobl greadigol, partneriaid a sefydliadau cymunedol at ei gilydd ar gyfer Dathliad Diwylliannol a Digwyddiad Rhwydweithio Sir Fynwy yn Borough Theatre, y Fenni.
Llwyddodd y digwyddiad i arddangos y gweithgareddau diwylliannol amrywiol yn Sir Fynwy a hwyluso trafodaethau am bwysigrwydd creadigrwydd wrth gryfhau cymunedau a chefnogi’r economi leol.

Croesawyd y dorf gan arddangosfa fywiog gyda cherddwyr stiltiau a pherfformiad dawns wedi’i ysbrydoli gan Ddeallusrwydd Artiffisial gan bobl ifanc o DanceBlast, i osod tôn egnïol ar gyfer y digwyddiad.
Un o’r uchafbwyntiau oedd lansio’r Strategaeth Ddiwylliannol ar gyfer Sir Fynwy 2025-2035, sy’n amlinellu cynllun yn llawn gweledigaeth ar gyfer y degawd nesaf. Mae’r strategaeth hon yn pwysleisio nad yw diwylliant yn ymdrech ynysig, ond ei fod, yn hytrach, yn sbardun allweddol ar gyfer llesiant, twf economaidd, cydnerthedd cymunedol, a chyd-hunaniaeth.

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyflwyniad i’r Rhaglen Blwyddyn Darllen Genedlaethol, gyda’r awdur arobryn Bethany Handley, a fu’n darllen ddetholiad o’i llyfr sydd ar fin cael ei gyhoeddi, sef My Body is a Meadow.
Roedd y cyflwyniadau yn ystod y dydd yn tynnu sylw at brosiectau creadigol amrywiol, gan gynnwys arddangosfeydd celf a chynyrchiadau theatr, gyda ffocws cryf ar ymgysylltu â ieuenctid trwy fentrau fel Dyfodol Creadigol ac Improv Stars Academy.

Roedd trafodaeth banel Holi ac Ateb, dan arweiniad Anita Holford, yn mynd i’r afael â chyfleoedd am nawdd i bobl greadigol yn Sir Fynwy, gyda mewnwelediadau gan gynrychiolwyr o Gyngor Celfyddydau Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru, a Chyngor Tref y Fenni.
Meddai Tracey Thomas, Pennaeth Diwylliant, Dysgu Cymunedol a Digwyddiadau: “Mae lansio ein Strategaeth Ddiwylliannol yn foment falch i Sir Fynwy. Mae’n adlewyrchu’r creadigrwydd anhygoel sy’n bodoli ar draws ein cymunedau a’n cyd-uchelgais i sicrhau bod diwylliant yn chwarae rhan ganolog wrth lunio dyfodol y sir; cryfhau cymunedau, cefnogi’r economi leol ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.”
“Roedd yn arbennig o galonogol gweld cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan a chlywed yn uniongyrchol gan bobl greadigol am y cyfleoedd a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu. Mae digwyddiadau fel hyn yn ein helpu i feithrin cysylltiadau cryfach, rhannu gwybodaeth a sicrhau bod cymorth yn hygyrch ar draws y sector.”
I gael rhagor o wybodaeth am y Strategaeth Ddiwylliannol ar gyfer Sir Fynwy, ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/policies-and-plans/