Skip to Main Content

Bydd deg prosiect ar draws Sir Fynwy yn cael cyfran o fwy na £7.5miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae pont teithio llesol y Fenni/Llan-ffwyst, adnewyddu’r Bont Gadwyn a’r B4245 yng Ngwndy yn rhai o’r prosiectau a fydd yn elwa.

Bydd y cyllid ar gael trwy’r Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol ac mae’n rhan o Gynllun Cyflawni Trafnidiaeth Ranbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Yn Sir Fynwy, mae hyn yn cynnwys prosiectau yng ngogledd a de’r sir, i wella trafnidiaeth gyhoeddus, priffyrdd, teithio llesol a chynhwysol a diogelwch ar y ffyrdd.

Bydd pont a chysylltiadau teithio llesol y Fenni/Llan-ffwyst yn cael £3.6miliwn, a bydd y gwaith adnewyddu sy’n cael ei wneud ar y Bont Gadwyn yn elwa ar £1.5miliwn.

Mewn ardaloedd eraill, bydd gwaith ar ddiogelwch ar y ffyrdd ar y B4245 wrth fynedfa pentref Gwndy yn cael £480,000 a bydd £400,000 yn mynd i gyfnewidfa fysiau/rheilffordd newydd yng Nghas-gwent.

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn parhau â’r gwaith datblygu ar bont Teithio Llesol Trefynwy, a phont droed Cyffordd Twnnel yr Hafren i hwyluso ceisiadau am gyllid adeiladu.

Mae’r prosiectau hyn ymhlith nifer o gynlluniau ar draws y sir i hyrwyddo a hwyluso cysylltiadau trafnidiaeth hawdd a diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer holl ddefnyddwyr y ffordd.

Dyma’r cynlluniau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hariannu trwy Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r cyhoeddiad yn cadarnhau’r cyllid ar gyfer y flwyddyn sydd ar droed ac mae’n rhan o uwch-gynllun pum mlynedd a ddatblygwyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Bydd cynlluniau pellach yn cael eu datblygu dros gyfnod y Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Ranbarthol a bydd cynlluniau eraill ar gyfer ffyrdd a rheilffyrdd yn Sir Fynwy y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hariannu trwy ddulliau eraill o gyflawni, fel Trafnidiaeth Cymru.

Meddai’r Aelod o Gabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby: “Rydyn ni’n croesawu’r newyddion am y cyllid hwn a fydd yn cael defnydd da gan y timau sy’n gweithio ar brosiectau trafnidiaeth ar draws Sir Fynwy.

“Mae cysylltiadau trafnidiaeth effeithlon a chynaliadwy yn rhan hanfodol o ansawdd bywyd a gweithgarwch economaidd i drigolion a busnesau yn Sir Fynwy a’r rhanbarth.”

“Mae’r cyllid hwn ochr yn ochr â’r gyllideb ychwanegol y mae Cyngor Sir Fynwy wedi’i neilltuo i gynnal a chadw ffyrdd, i helpu i fynd i’r afael â’r difrod a achoswyd gan y tywydd eithafol yr ydym wedi’i gael y gaeaf hwn.”

Am restr lawn o brosiectau a fydd yn elwa ar y Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol, ewch i Regional transport grants awarded 2026 to 2027 | GOV.WALES