Fe fu Cyngor Sir Fynwy yn dathlu popeth Cymreig a Chymraeg yn Neuadd y Sir ym Mrynbuga y bore yma i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Ymunodd plant ysgol, canwr a chynrychiolwyr o gymuned Wcrain Sir Fynwy â chynghorwyr a swyddogion i nodi’r diwrnod.

Dechreuodd y digwyddiad, sy’n dathlu’r Gymraeg gymaint ag y mae’n dathlu’r wlad ei hun, gydag anerchiadau gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby a’r Dirprwy Gadeirydd, Martyn Groucutt, cyn i blant o ddwy ysgol Gymraeg yn Sir Fynwy berfformio cerddi a chaneuon.
Roedd Ysgol Gymraeg Trefynwy ac Ysgol Gymraeg Y Ffin yn perfformio’n gyfan gwbl yn Gymraeg a nodwyd bod y ddwy ysgol wedi gweld niferoedd eu disgyblion yn cynyddu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Perfformiodd y gitarydd/canwr Cymraeg, Mansel Davies, ganeuon Cymraeg adnabyddus gan gynnwys Myfanwy, cyn i’r disgyblion gael eu gwahodd i edrych y tu mewn i Siambr y Cyngor ar ôl blasu’r dewis o bice ar y maen.
Cafwyd araith deimladwy gan aelodau o gymuned Wcrain Sir Fynwy ac archwiliwyd y tebygrwydd rhwng y ddwy wlad.

Meddai Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Roedd yn wych cael gwrando ar y plant yn canu ac yn adrodd yn Gymraeg.
“Mae’r Gymraeg yn rhan mor bwysig o hanes Cymru a hefyd o’i dyfodol. Mae dysgu Cymraeg yn ifanc yn gymaint o gaffaeliad i blant am weddill eu hoes.
“Rwy’n falch o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Sir Fynwy i’w hyrwyddo.
“Dydd Gŵyl Dewi Hapus.”
