Mae Cyngor Sir Fynwy eisiau clywed gan bobl ifanc ar draws y sir sy’n defnyddio’u llyfrgell leol.
Yn yr ymgynghoriad sydd newydd lansio, Sgwrsio Am Lyfrgelloedd: Arolwg Pobl Ifanc, rydyn ni’n chwilio am adborth gan bobl ifanc rhwng 8 ac 16 oed am yr hyn maen nhw’n ei hoffi, beth ellid ei wella, a’r hyn y byddent wrth eu bodd yn ei weld yn y dyfodol. Os ydyn nhw’n ymweld â’u llyfrgell leol i ddarllen, astudio gyda ffrindiau, ymuno mewn gweithgareddau, neu dreulio amser, rydyn ni eisiau clywed ganddynt.
Mae llyfrgelloedd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi llythrennedd, annog cariad gydol oes at ddarllen, a helpu plant a phobl ifanc i feithrin sgiliau sy’n cefnogi dysgu a llwyddiant gydol oes.
Gall eu syniadau helpu i wneud ein llyfrgelloedd hyd yn oed yn well, gan wella’r lleoedd, y llyfrau, yr adnoddau, y gweithgareddau a’r digwyddiadau i bobl ifanc yn Sir Fynwy.
Mae’n cymryd ychydig funudau yn unig i lenwi’r holiadur a dydyn ni ddim yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol.
I gymryd rhan, ewch i: www.letstalkmonmouthshire.co.uk/libraries-cyp-survey
Bydd yr arolwg ar y gweill am bythefnos, gan ddechrau ddydd Llun, 16 Mawrth.
Bydd pobl ifanc sy’n ymweld â llyfrgell leol yn cael gwahoddiad i lenwi’r holiadur ar-lein cyflym, hawdd a chyfrinachol, a fydd hefyd ar gael ar bapur.
Bydd ein tîm gwasanaethau llyfrgell yn edrych dros yr ymatebion ac yn eu defnyddio i helpu i gynllunio stoc, lleoedd a gweithgareddau yn y dyfodol.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu, y Cynghorydd Angela Sandles: “Mae ein llyfrgelloedd yn lleoedd croesawgar lle gall pobl ifanc ddarllen er pleser, astudio, rhoi tro ar rywbeth newydd a threulio amser gyda ffrindiau. Rydyn ni eisiau sicrhau bod ein llyfrgelloedd yn dal i adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw, o’r llyfrau ar y silffoedd i’r gweithgareddau a’r digwyddiadau sydd ar gael. Os ydych chi rhwng 8 ac 16 oed, gofynnwn yn garedig i chi dreulio ychydig funudau yn llenwi’r holiadur Sgwrsio Am Lyfrgelloedd: Arolwg Pobl Ifanc a helpu i ddylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd nesaf.”