Skip to Main Content

Mae disgwyl i Sir Fynwy elwa o fuddsoddiad newydd sy’n anelu i gefnogi swyddi, sgiliau, a busnesau lleol.

Bydd y Gronfa Twf Lleol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2025, yn buddsoddi £547 miliwn ledled Cymru rhwng 2026 a 2029. Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cael dyraniad dangosol ar gyfer y flwyddyn sy’n pontio 2026/27, i helpu i gyflawni prosiectau sy’n mynd i’r afael ag anghenion a chyfleoedd lleol yn uniongyrchol.

Yn 2026/27, disgwylir i Sir Fynwy gael gwerth £1.25 miliwn o gyllid cyfalaf ynghyd â £532,000 mewn cyllid refeniw. Mae’r cyngor wedi datblygu cynllun lleol cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar gryfhau’r economi leol, creu llwybrau at fyd gwaith, a sicrhau bod trigolion yn gallu cael hyd i gyfleoedd hyfforddi a chymorth o ansawdd uchel.

Bydd y buddsoddiad yn cael ei wario ar brosiectau amrywiol sydd wedi’u cynllunio i ddatgloi twf, helpu busnesau i ffynnu, a chefnogi unigolion ar wahanol gyfnodau yn eu bywydau gwaith.

Mae prosiectau allweddol yn cynnwys GrowthSpace, sy’n anelu at ddatgloi potensial economaidd safleoedd gwag, segur neu safleoedd nad ydynt yn cael eu defnyddio’n ddigonol, trwy ymdrechion ar y cyd i greu cyfleoedd newydd i fusnesau a swyddi. Bydd Canolfan Sgiliau Sir Fynwy yn sefydlu canolfan hyfforddi fodern sydd â chyfleusterau o safon diwydiant, gan gryfhau llwybrau sgiliau a chynorthwyo trigolion i gael y cymwysterau sydd eu hangen ar gyflogwyr.

Bydd y rhaglenni hefyd yn hyrwyddo twf economaidd cynhwysol trwy fentrau wedi’u targedu, i helpu busnesau a chymunedau i ffynnu. Mae hyn yn cynnwys gwella hygyrchedd, a sgiliau i wella economi ymwelwyr Sir Fynwy, cefnogi busnesau bwyd i dyfu’n gynaliadwy, a rhoi cyngor wedi’i deilwra i entrepreneuriaid, busnesau bach, mentrau cymdeithasol, a busnesau gwledig.

Bydd pwyslais cryf yn cael ei roi ar helpu unigolion i gychwyn ym myd gwaith ac adeiladu sgiliau ar gyfer y dyfodol. Bydd rhaglenni pwrpasol yn cynnig cymorth cyflogadwyedd, hyfforddiant, a llwybrau clir i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, yn enwedig i bobl ifanc a grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli.

Dywedodd y Cyng. Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd: “Mae’r cyllid hwn yn golygu buddsoddi yn yr economi leol, a rhoi’r offer, y sgiliau a’r mannau sydd eu hangen ar bobl i’w harfogi i ffynnu.

“O adfywio adeiladau i gefnogi busnesau lleol a chynorthwyo trigolion i gael mynediad at hyfforddiant a chyfleoedd, rydym yn gosod y sylfaen ar gyfer twf cynaliadwy sydd o fudd i’n heconomi leol nawr, ac yn y dyfodol.”