Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch iawn o’r cyhoeddiad newydd gan Lywodraeth y DU sy’n cadarnhau bod buddsoddiad sylweddol mewn gorsaf reilffordd newydd i wasanaethu Magwyr a Gwndy ar y trywydd iawn i’w gael i’w chyflwyno.

Fel rhan o gyhoeddiad gwerth sawl biliwn o bunnoedd, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau ei chefnogaeth a’i pharodrwydd i fuddsoddi mewn pum gorsaf reilffordd newydd yn Ne-ddwyrain Cymru.

Amlygwyd y gorsafoedd hyn fel buddsoddiadau amgen pan benderfynwyd rhoi’r gorau i waith pellach ar ffordd liniaru arfaethedig ar gyfer traffordd yr M4. Byddant yn dod yn elfennau allweddol o Fetro De Cymru.

Dywedodd y Cyng. Catrin Maby, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd ac Amgylchedd:
“Mae hyn yn newyddion da i Sir Fynwy. Mae blynyddoedd lawer o waith ac ymgyrchu wedi dod at ei gilydd yn y cyhoeddiad hwn heddiw. Nid hynny yn unig, ond rydym bellach wedi cael addewid y bydd yr orsaf newydd ar gyfer Magwyr a Gwndy ar flaen y ciw adeiladu, gyda’r gwaith i’w disgwyl i gychwyn eleni.

“Mae hwn yn ddiwrnod da i deithwyr, i’r economi ac i’r amgylchedd. Rheilffyrdd yw ein dewis teithio mwyaf cynaliadwy ac fe fydd yn lleihau’r pwysau ar y rhwydwaith ffyrdd – buddugoliaeth ddwbl.”

Ychwanegodd y Cyng. Mary Ann Brocklesby, Arweinydd y Cyngor: “Rwy’n hynod o falch o dderbyn y newyddion hyn. Mae’r orsaf newydd hon wedi bod yn flaenoriaeth i’m gweinyddiaeth ers i ni ddod i swydd, ac rydym wedi lobïo’n galed i gyrraedd y pwynt hwn.

“Y gwir stori a’r gwir arwyr yw’r grŵp o drigolion ymroddedig ym Magwyr a Gwndy. Maent wedi profi, os ydych yn wir gredu mewn rhywbeth, peidiwch roi’r gorau iddi er gwaethaf nifer o rwystrau, ac arhoswch yn driw, daw pethau da. Llongyfarchiadau iddynt ac i bawb arall, gan gynnwys y cynghorwyr lleol, sydd wedi rhoi cymaint o’u hamser i hyn – diwrnod da iawn.”