Skip to Main Content

Bydd Cabinet Cyngor Sir Fynwy yn trafod y cynigion terfynol ar gyfer y gyllideb yn ei gyfarfod nesaf, ddydd Mercher, 4 Mawrth 2026.

Cyn hyn mae’r cyngor heddiw wedi cyhoeddi ei gynigion terfynol ar gyfer y Gyllideb Refeniw a Chyfalaf 2026–27, sy’n adlewyrchu’r adborth a dderbyniwyd drwy raglen estynedig o ymgynghori â’r cyhoedd a rhanddeiliaid.

Ar gyfer 2026–27, mae’r cyngor yn cynllunio cyllideb o £230 miliwn, wedi’i hariannu drwy gyfuniad o grant Llywodraeth Cymru, treth y cyngor, ffioedd a thaliadau.

Cyhoeddwyd y gyllideb ddrafft yn gynharach eleni i wahodd barn trigolion, busnesau, cynghorwyr, partneriaid a sefydliadau cymunedol. Cafwyd ymatebion drwy arolwg, digwyddiadau ymgysylltu ac archwilio, a thrwy drafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol.

Roedd cyflwr y ffyrdd yn bryder sylweddol i lawer o drigolion drwy gydol yr ymgynghoriad. Mewn ymateb, mae’r cabinet wedi cyhoeddi buddsoddiad cyfalaf ychwanegol o £2 filiwn, wedi ei gyfnodoli dros dair blynedd, yn benodol i fynd i’r afael â ceudyllau a gwella cyflwr cyffedinol rhwydwaith ffyrdd y sir.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyng. Mary Ann Brocklesby: “Mae’r gyllideb hon wedi’i siapio gan yr hyn a ddywedodd pobl wrthym. Gwnaethom gweud yn glir o’r cychwyn bod ymgynghori â’r cyhoedd yn bwysig, ac mae’r cynigion terfynol yn dangos ein bod wedi gwrando ar bryderon trigolion ac wedi gwneud addasiadau.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cw blhau’r arolwg neu wedi ymgysylltu yn ein sesiynau ledled y sir. Mae’ch mewnbwn wedi bod yn amhrisiadwy i sicrhau ein bod yn cyflwyno cyllideb sy’n siarad â’ch blaenoriaethau. Byddwn yn sicrhau bod eich adborth yn parhau i lywio gwaith y cyngor.”

Yn ystod yr ymgynghoriad, cododd llawer o drigolion bryderon am effaith y cynnydd o 5.95% yn nhreth y cyngor yng nghyd-destun y pwysau costau byw parhaus. Ar ôl ystyriaeth ofalus, daeth y cabinet i’r casgliad bod y cynnydd arfaethedig yn angenrheidiol i gydbwyso’r gyllideb, diogelu gwasanaethau rheng flaen hanfodol, a galluogi buddsoddiad parhaus mewn meysydd o’r angen mwyaf, yn enwedig gofal cymdeithasol, addysg a seilwaith.

Mae’r cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu’r rhai ar incwm isaf drwy’r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, yn ogystal â chynyddu’r defnydd o eithriadau a gostyngiadau ar gyfer cartrefi cymwys. Daeth y cabinet i’r casgliad bod y dull hwn yn cyflawni cydbwysedd teg rhwng cynnal gwasanaethau hollbwysig a chefnogi trigolion sydd fwyaf mewn perygl o galedi ariannol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Ben Callard, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Adnoddau: “Rydym yn gwybod bod unrhyw gynnydd yn nhreth y cyngor yn anodd, yn enwedig ar adeg pan mae llawer o aelwydydd yn wynebu pwysau ariannol gwirioneddol. Nid yw’r penderfyniad hwn wedi’i wneud yn ysgafn. Mae’r cynnydd yn angenrheidiol er mwyn diogelu gwasanaethau lleol hanfodol y mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd, tra hefyd yn darparu cymorth wedi’i dargedu i’r rhai sydd ei angen fwyaf. Ein blaenoriaeth yw taro cydbwysedd teg rhwng fforddiadwyedd i drigolion a chynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau’r cyngor.”

Am rhagor o wybodaeth am  cynigion yerfynol ar gyfer y Gyllideb Refeniw a Chyfalaf 2026–27, ewch i: https://democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=144&MId=6112