Skip to Main Content

Dychwelodd ymgyrch Dymuniadau Nadolig Gwasanaethau Plant Sir Fynwy am ei 9fed flwyddyn a daeth â chefnogaeth mawr ei hangen i deuluoedd a phobl ifanc agored i niwed.

Mewn blwyddyn lle mae cymaint o bobl a busnesau yn Sir Fynwy wedi wynebu heriau o’r fath, mae haelioni cwmnïau, sefydliadau ac unigolion wedi dangos gwir Ysbryd y Nadolig.

Mae’r ymgyrch Dymuniadau Nadolig yn sicrhau bod teuluoedd, plant a phobl sy’n gadael gofal yn derbyn basgedi o nwyddau ac anrhegion Nadolig yn ystod yr ŵyl.

Dosbarthwyd cyfanswm o 85 o fasgedi nwyddau a 330 o anrhegion fel rhan o’r ymgyrch eleni.

Rhoddodd llawer o staff, grwpiau, cynghorwyr a thrigolion mor hael, a rhaid diolch yn arbennig i’r canlynol:

· Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy

· Grŵp Edentstone

· Grŵp Vistry

· Tesco Cas-gwent

· Maddie’s academy yn Y Fenni

· Hybiau Cyngor Sir Fynwy

· Morgans, Brynbuga

· Ysgol Brenin Harri’r VIII

· Eglwys y Santes Fair yng Nghas-gwent

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch: “Mae bob amser mor galonogol gweld pobl ar draws ein sir yn camu ymlaen i gefnogi trigolion sy’n wynebu anawsterau.

“Hoffwn ddiolch i bawb am eu haelioni yn ystod yr ymgyrch Dymuniadau Nadolig blynyddol, a hefyd i’r staff sy’n gweithio mor ddyfal i sicrhau nad oes unrhyw un yn mynd hebddo yn ystod cyfnod prysur yr ŵyl.”