Mae Cyngor Sir Fynwy wedi lansio ei ymgynghoriad cyhoeddus ar Gyllideb a Blaenoriaethau Drafft 2026-27.
O ddydd Iau, 22 Ionawr tan 5pm ddydd Mercher, 18 Chwefror, mae trigolion yn cael eu gwahodd i leisio eu barn ar sut rydym yn dyrannu ein hadnoddau ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27.
Mae’r cynigion drafft yn nodi sut mae’r cyngor yn bwriadu buddsoddi yn y gwasanaethau sy’n bwysicaf i bobl leol, addysg, gofal cymdeithasol, ffyrdd a chyfleusterau cymunedol.
Ar gyfer 2026-27, mae’r cyngor yn cynllunio cyllideb o tua £230 miliwn, wedi’i hariannu drwy gyfuniad o grant Llywodraeth Cymru, treth gyngor, ffioedd a thaliadau.
Er gwaethaf heriau ariannol parhaus a’r effaith barhaus o’r argyfwng costau byw, mae’r cyngor yn edrych i gynnal gwasanaethau rheng flaen ar gyfer 2026-27. Cynigir buddsoddiad pellach hefyd mewn meysydd gan gynnwys, cefnogaeth i bobl ifanc, seilwaith cymunedol, gweithredu ar hinsawdd ac yr amgylchedd, a chryfhau gofal yn y gymuned.
I gefnogi’r buddsoddiadau hyn, cynigir cynnydd o 5.95% yn y dreth gyngor, sy’n is na blynyddoedd blaenorol, ac yn hanfodol i ddiogelu gwasanaethau hanfodol. Bydd y cyngor yn sicrhau bod trigolion sy’n gymwys i gael gostyngiadau yn derbyn gwybodaeth glir a chymorth i’w hawlio.
Gall trigolion gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein, mewn llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol, neu drwy siarad â’u cynghorydd lleol. Mae manylion llawn a dogfennau ategol ar gael ar wefan Sgwrsio am y Gyllideb a’r Blaenoriaethau 2026-2027: www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/cyllideb-2026-27
Dywedodd y Cyng. Ben Callard, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Adnoddau:
“Bob blwyddyn, mae lleisiau trigolion yn siapio ein penderfyniadau. Mae’r gyllideb ddrafft hon yn canolbwyntio ar yr hyn rydych chi’n dweud sy’n bwysig: diogelu gwasanaethau hanfodol, cefnogi pobl fregus, a buddsoddi yn ein cymunedau ar gyfer y dyfodol.
Rydym wedi gweithio’n galed i osgoi toriadau eleni. Yn hytrach, mae’r cynigion hyn yn nodi ymrwymiad clir i fuddsoddi mewn gwasanaethau sy’n helpu pobl i aros yn gysylltiedig, derbyn cefnogaeth ac i aros yn ddiogel. Mae eich adborth yn hollbwysig i’n helpu i wneud hyn yn iawn.”
Ynghyd â’r arolwg, mae’r cyngor yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu ar-lein a sesiynau galw heibio ar draws y sir. I gael gwybod y dyddiadau a’r amseroedd, ewch i’r wefan: www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/cyllideb-2026-27
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Cyng. Mary Ann Brocklesby:
“Rydym wedi gweld newidiadau’n cael eu gwneud i’n cynigion drafft mewn blynyddoedd blaenorol yn seiliedig ar eich adborth. Dyma’r amser i leisio eich barn ar y gwasanaethau a ddarparwn i chi.
“Pa bynnag ffordd y byddwch yn dewis cymryd rhan, edrychwn ymlaen at glywed eich barn. Mae eich barn yn bwysig i ni.”