Skip to Main Content

Mae Sir Fynwy wedi cael ei chynrychioli ar lwyfan y byd fel rhan o COP30 ym Mrasil.

Ymunodd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, â’r digwyddiad, o bell, ochr yn ochr â chwe disgybl ysgol o Sir Fynwy.

Ymddangosant fel rhan o ddigwyddiad COP 30 ‘From Forest Roots to Global Action: Grassroots and Youth Alliances for a Deforestation-Free Future’.

Roedd hwn yn gyfle i lunwyr polisi a phobl ifanc o Gymru ymuno ag arweinwyr brodorol o Genedl Wampís (Periw) a Phobl Guaraní (Brasil) i archwilio sut y gall gweithredu ar lawr gwlad fynd i’r afael â datgoedwigo byd-eang.

Tynnodd y digwyddiad hwn sylw at rôl hanfodol coedwigoedd trofannol, effaith ôl troed Cymru ar dir tramor, a sut y gall cenhedloedd bach sbarduno newid systemig.

Mewn partneriaeth â Maint Cymru, elusen newid hinsawdd yng Nghymru, trafododd cyfranogwyr sut i fynd i’r afael â datgoedwigo, gartref a thramor, a hynny mewn partneriaeth ystyrlon â Phobl Brodorol. Rhannodd disgyblion Sir Fynwy yr hyn yr oeddent wedi ei ddysgu am y cynhyrchion a all gyfrannu at ddatgoedwigo, a sut aethant ati i weithio gyda’r cyngor i gyflwyno newidiadau i’r fwydlen prydau ysgol ac annog y Cyngor i lofnodi Siarter Dim Datgoedwigo.

Dangosodd y digwyddiad sut y gall gwledydd cymharol fach, fel Cymru, chwarae rôl gatalytig wrth fynd i’r afael â datgoedwigo rhyngwladol, trwy gefnogi arloesi sy’n cael ei arwain gan frodorion dramor a thrwy hyrwyddo newid systemig gartref.

Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: “Braint oedd cynrychioli Sir Fynwy mewn digwyddiad mor uchel ei phroffil.

“Yr her sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd yw’r mwyaf sy’n wynebu’r byd ac mae’n un y mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i’w brwydro. Mae ein coedwigoedd trofannol yn hanfodol o ran storio carbon.

“Roedd yn ysbrydoledig gweld pobl ifanc o Gymru yn cymryd rhan mewn deialog mor bwysig gyda’r bobl hynny yr ochr arall i’r byd, y bydd y dewisiadau y mae gweddill y byd yn eu gwneud, yn effeithio arnynt ar unwaith.”