Cyflwynwyd gwobr platinwm gan y RSPCA i Gyngor Sir Fynwy, i’w anrhydeddu am ei safonau lles anifeiliaid eithriadol.
Derbyniodd y cyngor y wobr yng Ngwobrau PawPrints yr elusen lles anifeiliaid.
Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod awdurdodau lleol ledled Cymru sy’n mynd cam ymhellach i wella lles anifeiliaid.
Mae’r gwobrau’n rhan o gynllun PawPrints y RSPCA, sy’n cydnabod cynghorau, gwasanaethau brys, milfeddygon, a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus sy’n mynd y tu hwnt i safonau cyfreithiol ar les anifeiliaid.
Cyflwynir gwobrau platinwm i’r rhai sydd wedi cyflawni safonau lefel aur am bum mlynedd neu fwy yn olynol.
Mae cynllun PawPrints yn cael ei gymeradwyo gan sawl sefydliad, gan gynnwys y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig, Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd a’r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Les Anifeiliaid.
Dywedodd y Cyng. Angela Sandles, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Mae’r wobr hon yn dyst go iawn i ymroddiad parhaus ein timau lles anifeiliaid a’u gwaith caled ledled Sir Fynwy.
“Rwy’n hynod falch bod y cyngor wedi derbyn gwobr Platinwm y RSPCA. Mae’n cydnabod y safonau uchel sy’n cael eu cyflawni o ddydd i ddydd, ac, er bod hon yn foment i ddathlu, rhaid i ni beidio â llaesu dwylo.
“Rydym yn parhau i ymroi i gynnal y safonau hyn ac adeiladu arnynt yn y blynyddoedd i ddod.”