Roedd Castell Cil-y-coed yn llawn cynhesrwydd a chefnogaeth unwaith eto wrth i bobl ifanc a theuluoedd ddod at ei gilydd ar gyfer y Digwyddiad Cofio blynyddol, a gynhelir gan Gyngor Sir Fynwy.
Ers ei sefydlu yn 2015, mae’r digwyddiad hwn wedi cynnig lle diogel i’r rheiny sydd wedi profi colled, i ddod i gyswllt â’u hemosiynau a rhannu atgofion ar adeg sy’n gallu bod yn heriol dros ben.
Roedd y diwrnod yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau creadigol wedi’u cynllunio’n ofalus i helpu teuluoedd i ffeindio’u ffordd trwy eu galar.
Roedd bobls wedi’u personoli, torchau Nadolig ac addurniadau bara sinsir ymhlith y gweithgareddau a oedd ar gael yn ystod y Digwyddiad Cofio eleni. Ac yn arbennig ar gyfer degfed flwyddyn y digwyddiad, roedd cyfle i bawb fwynhau ras ceir balŵns hefyd.
Gallai’r rheiny a oedd ym bresennol rannu eu straeon a’u profiadau, gan ennyn sgyrsiau ystyrlon a meithrin cyfeillgarwch newydd.
Cefnogwyd y digwyddiad gan dîm Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Fynwy, sy’n cynnwys cwnselwyr cymwys a nifer o wirfoddolwyr sydd wedi ymrwymo i helpu teuluoedd.
Meddai’r Cynghorydd Ian Chandler, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch: “Mae’r cyfnod hwn yn gallu bod yn un anodd i blant a theuluoedd sydd wedi colli anwyliaid.
“Diolch i’r holl staff a’r gwirfoddolwyr ymroddgar sy’n cefnogi pobl ifanc trwy gydol y flwyddyn.
“Os ydych chi’n teimlo’n fregus, bydd ein tîm ni yma i helpu.”
Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig dewis amrywiol o adnoddau i unigolion sy’n wynebu profedigaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i: Adnoddau Profedigaeth – Sir Fynwy.