Mae Brynbuga yn ei Blodau yn dathlu’r Wobr Aur a’r ffaith iddi gael ei choroni’n Bencampwr Pentref Mawr Cymru yn ei Blodau 2025, a’r Fenni yn ei Blodau wedi ennill y Wobr Aur yn y categori i Drefi.
Cyflwynwyd y gwobrau mewn seremoni a gynhaliwyd yn Wrecsam ddydd Gwener 3 Hydref 2025, gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Y tu hwnt i’r blodau, mae gwirfoddolwyr yn cyfrannu oriau di-ri i ofalu am y gymuned – paentio meinciau, glanhau strydoedd, cynnal a chadw potiau plannu, a chefnogi prosiectau amgylcheddol a gwaith ymgysylltu cymunedol. Yn aml, does neb yn sylwi ar lawer o’r gwaith hwn y tu ôl i’r llenni, ond mae’n hanfodol er mwyn cadw’r ardaloedd yn hardd, yn gynaliadwy ac yn groesawgar.
Mae arddangosfeydd a gerddi cymunedol 2025 unwaith eto wedi dod â llesiant a llawenydd i drigolion ac ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn.
Meddai’r Cynghorydd Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd: “Llongyfarchiadau enfawr i Frynbuga a’r Fenni yn ei Blodau.
“Mae’r gwobrau hyn yn dyst i waith caled yr holl wirfoddolwyr trwy gydol y flwyddyn.
“Heb eu hymdrechion diflino, fyddai ein trefi a’n pentrefi ddim mor lliwgar a chroesawgar.
“Da iawn am gyrraedd y safon aur am flwyddyn arall eto.”
Am ragor o wybodaeth neu i fod yn rhan o waith Brynbuga neu’r Fenni yn ei Blodau, ewch i uskinbloom.org.uk neu www.abergavennytowncouncil.gov.uk/abergavenny-in-bloom/

